Bydd rhaglen llogi beics yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn cael ei hatal yn sgil fandaliaeth, dwyn a bygythiadau yn erbyn staff.

Yn ôl cwmni Nextbike, mae mwy o fandaliaeth a dwyn yng Nghaerdydd nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig, a bydd y cynllun yn cau tan y flwyddyn nesaf.

Byddan nhw’n cau ar Dachwedd 15 tra bod y beics yn cael eu trwsio neu eu cyfnewid am rai newydd, ac os nad yw’r sefyllfa’n gwella, gallai’r cynllun gau yn barhaol.

Lansiodd Nextbike ei fflyd beiciau yng Nghaerdydd yn 2018 i ddarparu trafnidiaeth gynaliadwy a fforddiadwy ledled y ddinas ac ers hynny, ynghyd â fflyd Bro Morgannwg a lansiodd y llynedd, mae’r cynllun wedi denu bron i 136,000 o gwsmeriaid.

Ers i’r rhaglen gael ei chyflwyno, mae mwy na 300 o feics wedi cael eu dwyn – 130 ohonyn nhw ers mis Awst eleni.

Ar ben hynny, mae’r cwmni wedi gorfod cael gwared ar 260 o feics gan eu bod nhw wedi cael eu difrodi.

‘Cwbl annerbyniol’

Dywedodd Krysia Solheim, Rheolwr Gyfarwyddwr Nextbike UK, fod “faint o fandaliaeth a lladrad rydyn ni wedi’i weld yn syfrdanol ac yn rhywbeth nad ydyn ydyn ni wedi’i brofi i’r un graddau yn unman arall yn y Deyrnas Gyfunol”.

“All ein timau ddim cadw ar ben lefel y difrod a’r dwyn,” meddai.

“Rydym yn tynnu’r beiciau dros dro o’r strydoedd wrth i ni drwsio’r rhai y gellir eu trwsio ac ymchwilio i ba fesurau diogelu sydd ar waith ger ein gorsafoedd beiciau – er enghraifft teledu cylch cyfyng a goleuadau stryd – a sut y gellir gwella hyn.

“Byddwn yn ailaddasu’r rhwydwaith i symud gorsafoedd i ardaloedd mwy diogel lle bo angen. Byddwn hefyd yn darparu camerâu corff i’n staff er eu diogelwch nhw’u hunain.

“Mae ein cynlluniau’n helpu i leihau tagfeydd ac allyriadau CO2, felly mae’n arbennig o dorcalonnus gwneud hyn yn ystod COP26, pan fo llygaid y byd ar y gwledydd hyn wrth i arweinwyr geisio cytuno ar ddatrysiadau i broblem newid yn yr hinsawdd.”

Dywed mai “lleiafrif bach iawn” sy’n achosi’r rhan fwyaf o’r difrod, a’u bod nhw’n ymwybodol o’r grwpiau sy’n gyfrifol ac yn gweithio gyda’r heddlu a’r awdurdodau i atal ymddygiad o’r fath.

“Er ei fod yn adlewyrchu mater cymdeithasol ehangach, ni allwn adael i’r lleiafrif bach hwn ei ddifetha i’r degau o filoedd o gwsmeriaid OVO Bike ffyddlon sydd gennym yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg,” meddai wedyn.

“Rydym yn gwybod fod y fandaliaeth wedi effeithio ar y gwasanaeth i’n cwsmeriaid, yn enwedig dros y misoedd diwethaf, a hoffem ymddiheuro am hyn gan ein bod yn gwybod fod pobol yn dibynnu ar y cynllun i symud o gwmpas.”

Dywedodd fod staff Nextbike wedi cael eu bygwth, hyd yn oed, wrth geisio adfer beiciau. Mae digwyddiadau diweddar wedi cynnwys gweithiwr yn gorfod dioddef rhywun yn pasio dŵr drosto ac un arall yn cael ei erlid gan rywun â rhaw wrth geisio adfer beic.

“Mae’r tîm yn cynnwys pobl leol sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd a’r Fro,” meddai.

“Mae’n gwbl annerbyniol eu trin fel hyn. Mae ein cynlluniau’n cyflogi 17 o bobol leol – dyna 17 o bobol a fydd heb waith os cawn ein gorfodi i ddiddymu’r cynlluniau. Ni ellir caniatáu i hyn ddigwydd.

“Rydym wir eisiau i gynlluniau Caerdydd a Bro Morgannwg barhau.

“Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio ar gyfer rolau o fewn y cynllun, felly yn sicr nid ein bwriad yw cau’r cynlluniau os gallwn osgoi hynny, ond mae angen i ni weld newid mawr yn ymddygiad pobol er mwyn i’r cynlluniau barhau’n hyfyw.

“Byddwn yn parhau i osod gorsafoedd trydan ychwanegol drwy gydol y cyfnod y byddwn ynghau, a fydd yn ychwanegu mwy o ddwysedd yng Nghaerdydd ac yn ehangu’r cynllun trydan y tu hwnt i Benarth yn y Fro.”

‘Hanfodol’

Wrth ymateb i’r sefyllfa, dywed Natasha Asghar, llefarydd Trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, ei bod hi’n “drist gweld y beics hyn, sy’n cael eu defnyddio gan gannoedd o bobol dros Gaerdydd a’r Fro bob dydd, yn mynd oherwydd lleiafrif labystaidd”.

“Mae rhaglenni fel Nextbikes yn hanfodol os ydym ni am annog pobol allan o geir preifat tuag at ffyrdd gwyrddach o deithio er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd, felly fe fydd hyn yn ergyd i’n hymdrechion,” meddai.

“Dw i’n gwerthfawrogi mai lleiafrif difeddwl sy’n gyfrifol am y fandaliaeth, ond dydi’r ffaith nad yw Nextbike wedi gweld y lefel hon o fandaliaeth yn unman arall yn y Deyrnas Unedig ddim yn adlewyrchu’n dda ar ddinas Caerdydd, sy’n cael ei rhedeg gan Lafur.

“Dylai gweinidogion Llafur ymgysylltu â chynghorwyr y ddinas, yr heddlu, y comisiynydd trosedd a Nextbike er mwyn gweld beth ellir ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem, boed hynny’n golygu gosod mwy o gamerâu CCTV neu wella goleuadau stryd o gwmpas gorsafoedd beics.”

“Difetha’r cyfleuster”

Dywed yr Arolygydd Darren Grady o Heddlu’r De fod “Nextbike yn gyfleuster ardderchog sy’n caniatáu i breswylwyr ac ymwelwyr deithio o amgylch Caerdydd a Bro Morgannwg mewn ffordd hwylus ac ecogyfeillgar”.

“Mae’r lleiafrif sy’n dwyn neu fandaleiddio’r beiciau hyn yn difetha’r cyfleuster i bawb arall ac rydym yn ymroddedig i weithio gyda nextbike a’r awdurdod lleol i barhau i leihau’r ymddygiad anystyriol hwn,” meddai.

“Ni fydd cam-drin gweithwyr nextbike, lladrata a fandaliaeth yn cael eu goddef ac mae ein Timau Plismona Bro yn rhagweithiol iawn wrth arestio’r rhai sy’n gyfrifol.

“Yng nghanol y ddinas yn unig, cafwyd naw o bobol yn euog yn y llys yn ddiweddar o droseddau o’r fath gan arwain at ddedfrydau o garchar, dirwyon a gwaith cymunedol.

“Edrychwn ymlaen at weld y beiciau yn ôl ar y strydoedd yn fuan ac rydym yn apelio ar y gymuned i helpu i ddiogelu’r cynllun pan fydd yn dychwelyd.”