Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i weithredu pe na bai Clwb Criced Swydd Efrog a Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn “cymryd camau go iawn” yn dilyn ffrae hiliaeth.
Mae Azeem Rafiq wedi gwneud honiadau o hiliaeth sefydliadol yn erbyn y clwb, sydd wedi arwain at ymddiswyddiad y cadeirydd Roger Hutton, ac mae Rafiq yn galw ar y prif weithredwr Mark Arthur a’r cyfarwyddwr criced Martyn Moxon i gamu o’r neilltu.
Ddoe (dydd Llun, Tachwedd 8), mae cyn-chwaraewr arall, Irfan Amjad, wedi gwneud rhagor o honiadau ynghylch ei gyfnod gyda’r clwb.
Mae Clwb Criced Swydd Efrog eisoes wedi cael eu gwahardd rhag cynnal gemau rhyngwladol hyd nes eu bod nhw’n mynd i’r afael â’r sefyllfa, ac mae nifer sylweddol o brif noddwyr y clwb wedi tynnu’n ôl o’u cytundebau gyda’r sir.
Mae Chris Philp, un o weinidogion y Llywodraeth, yn galw ar y cadeirydd newydd, yr Arglwydd Kamlesh Patel a Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) i gynnal “ymchwiliad llawn i ddileu hiliaeth lle mae’n bodoli ac i fynd i’r afael â’r diwylliant sy’n gallu cefnogi” hiliaeth.
Daw’r ymateb ar ôl i Nav Mishra, Aelod Seneddol Stockport, ofyn cwestiwn am y sefyllfa.
“Mae angen i’r ymchwiliadau dw i wedi cyfeirio atyn nhw fod yn drylwyr, mae angen iddyn nhw fod yn dryloyw ac mae angen iddyn nhw fod yn gyhoeddus – mae hynny’n angenrheidiol er mwyn adfer hyder y cyhoedd mewn criced a thu hwnt,” meddai’r Gweinidog Chris Philp.
“Mae’r senedd yn gwylio, mae’r Llywodraeth yn gwylio ac mae’r wlad yn gwylio.
“Rydym yn disgwyl camau go iawn ac mae’r Llywodraeth yn barod i gamu i mewn a gweithredu pe na baen nhw’n rhoi trefn ar eu tŷ eu hunain.”
Ychwanegodd y dylai unrhyw un yn eu swyddi o hyd gamu o’r neilltu, a bod sefyllfa Rafiq yn “annerbyniol”, na ddylid fod wedi gadael i’r sefyllfa godi ac y dylid fod wedi “ymdrin â hi’n gywir” yn ystod yr ymchwiliad gwreiddiol.
Dywed fod rhaid i’r mater fod yn “eiliad dyngedfennol i griced”.
Cydnabod fod camau wedi’u cymryd
Mae Chris Philp yn cydnabod fod yr ECB wedi cymryd camau eisoes drwy gynnal “ymchwiliad llawn” ac atal Swydd Efrog rhag cynnal gemau rhyngwladol.
Dywed na fydd hyn “yn dadwneud y boen mae Azeem yn ei theimlo”, a bod angen “mwy o weithredu”.
Mae’n annog unrhyw un arall sydd wedi dioddef i “godi llais”, gan ddweud y bydd y pwyllgor seneddol yn “craffu ar y camau mae Clwb Criced Swydd Efrog yn eu cymryd wrth ymateb i’r honiadau damniol hyn”.
Gary Ballance
Mae Chris Philp hefyd yn croesawu penderfyniad Bwrdd Criced Cymru a Lloegr i wahardd Gary Ballance rhag chwarae criced rhyngwladol – er nad yw e wedi cynrychioli Lloegr ers 2017 – ar ôl iddo gyfaddef defnyddio gair hiliol wrth siarad ag Azeem Rafiq tra bod y ddau yn chwarae i Swydd Efrog.
Mae’r clwb wedi derbyn rhagor o honiadau yn ei erbyn, gan gynnwys un honiad yn y Daily Telegraph iddo ddefnyddio ymadrodd sarhaus i ddisgrifio pobol o liw.
Yn ôl Chris Philp, dydy “pryd o dafod” ddim yn ddigon o gosb.
Dywedodd Nav Mishra y “dylai chwaraeon fod ar gyfer pawb”, a “ddylai neb gael eu cau allan neu eu bychanu oherwydd eu hil, rhyw, rhywedd nac anabledd”.
Adroddiad llawn
Yn y cyfamser, mae Comisiwn Annibynnol Cydraddoldeb mewn Criced yn dal i aros am adroddiad llawn yr ymchwiliad i honiadau Azeem Rafiq.
Cafodd y Comisiwn ei sefydlu ym mis Mawrth, ac fe ddechreuodd alw am dystiolaeth yr wythnos hon ond mae’r aelodau’n awyddus i weld adroddiad yr ymchwiliad annibynnol sy’n nodi bod Azeem Rafiq wedi dioddef “aflonyddu hiliol a bwlio”.
Dim ond rhan o’r adroddiad sydd wedi cael ei gyhoeddi hyd yn hyn.
Mae’r Arglwydd Patel wedi rhannu’r ddogfen gyda’r sawl sy’n rhan o’r ymchwiliadau ac sydd â rhan gyfreithiol yn y mater, gan gynnwys Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, y pwyllgor seneddol yn San Steffan a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Mae’r Comisiwn hefyd wedi gwneud cais i weld yr adroddiad, ond fe fyddai hynny’n torri cytundeb â Swydd Efrog, yn ôl adroddiadau.