Bydd y bachwr Ken Owens yn methu Cyfres yr Hydref i gyd oherwydd anaf i’w gefn.
Doedd chwaraewr rheng-flaen y Llewod ddim yn rhan o’r golled 23-18 ddydd Sadwrn i bencampwyr y byd, De Affrica, ac mae bellach wedi gorfod tynnu’n ôl yn llwyr o garfan Wayne Pivac.
Roedd seren y Scarlets wedi cael ei enwi yn lein-yp cychwynnol Cymru ar gyfer y golled 54-16 yn erbyn Seland Newydd ym mis Hydref – ond bu’n rhaid iddo dynnu’n ôl yn fuan ar ôl i’w ddewis gael ei gadarnhau.
A nawr bydd yn colli’r gemau yn erbyn Fiji ac Awstralia hefyd.
“Mae Ken Owens wedi cael ei ryddhau o’r garfan genedlaethol oherwydd anaf i’w gefn a fydd yn ei atal rhag cymryd unrhyw ran yng Nghyfres yr Hydref,” meddai datganiad gan Undeb Rygbi Cymru.
“Clod mawr am eu hymdrech”
Ryan Elias ddechreuodd y golled yn erbyn y Springboks, gyda Bradley Roberts o Ulster yn dod oddi ar y fainc am ei ymddangosiad cyntaf tua’r diwedd.
Mae hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, yn credu bod ei dîm wedi cymryd camau breision mewn gêm glos yn erbyn De Affrica, a bydd nawr yn llygadu dwy fuddugoliaeth, gan ddechrau gyda Fiji ddydd Sadwrn.
“Gallem fod wedi ennill y gêm honno 9yn erbyn De Affrica], daeth i lawr i ambell foment,” meddai Pivac.
“Mae gennym ychydig o waith i’w wneud yn y sgrym ond fe wnaethon ni fatsio nhw ar draws y cae – roedden ni’n arwain am gyfnodau.
“Mae’n gam mawr i’r cyfeiriad cywir … Ro’n i’n meddwl fod y chwaraewyr yn haeddu clod mawr am eu hymdrech.”