Mae Dylan Levitt a Ben Cabango wedi tynnu’n ôl o garfan Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Belarws a Gwlad Belg.

Mae chwaraewr canol cae Manchester United, Levitt, ar fenthyg yn Dundee United, ac amddiffynnwr Abertawe, Cabango, wedi tynnu allan oherwydd “anaf a rhesymau personol”, yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae dynion Robert Page yn brwydro i sicrhau’r ail safle yng Ngrŵp E a lle yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd ym mis Mawrth.

Byddai gorffen yn ail yn sicrhau gêm ail gyfle gartref i Gymru, er ei bod hi’n debygol y byddan nhw’n cael gêm ail gyfle oddi cartref beth bynnag, ar ôl ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Ar hyn o bryd maen nhw’n yn y trydydd safle, y tu ôl i’r Weriniaeth Tsiec ond gyda gêm mewn llaw cyn gemau cartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bydd Cymru’n wynebu Belarws ddydd Sadwrn (13 Tachwedd) ac arweinwyr y grŵp Gwlad Belg y dydd Mawrth canlynol (16 Tachwedd).