Mae’r cefnogwr aeth ar y cae yn ystod colled Cymru o 23-18 i Dde Affrica wedi cael gwaharddiad oes o Stadiwm Principality.
Mae Undeb Rygbi Cymru a Heddlu De Cymru wedi canfod y llanc, a redodd i’r cae a gorfodi’r cefnwr Liam Williams i neidio drosto wrth i staff y stadiwm geisio ei dynnu oddi yno.
“Y profiad traddodiadol ar ddiwrnod y gêm dan fygythiad”
Mae rheolwr Stadiwm Principality, Mark Williams, wedi rhybuddio bod digwyddiadau o’r fath yn golygu bod awyrgylch draddodiadol gêm rygbi “dan fygythiad” – gydag Undeb Rygbi Cymru yn barod i dynhau’r rheolau.
“Gan weithio ar y cyd â Heddlu De Cymru, roeddem yn gallu adnabod y sawl a aeth ar y maes chwarae yn ystod Cymru yn erbyn De Affrica yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn, 6 Tachwedd,” meddai Williams.
“Mae Undeb Rygbi Cymru, Stadiwm Principality a Heddlu De Cymru yn condemnio unrhyw ymddygiad o’r math hwn a bydd yr unigolyn yn cael gwaharddiad oes o brynu unrhyw docynnau gan Undeb Rygbi Cymru ar gyfer digwyddiadau rygbi a gynhelir yn Stadiwm Principality yn y dyfodol.
“Roeddem yn siomedig iawn o ddarganfod bod yr unigolyn yn chwaraewr cofrestredig ac yn aelod o glwb rygbi; mae Undeb Rygbi Cymru wrthi’n ymchwilio i hyn fel achos o dorri cod ymddygiad.
“Hoffwn ddiolch i stiwardiaid ochr y cae a’r tîm diogelwch ar y cae a weithredodd yn gyflym, gan atal yr unigolyn a’i hebrwng o’r cae chwarae.
“Ers dros 20 mlynedd mae’r stadiwm hwn yn fyd-enwog am ei awyrgylch unigryw a’r profiad ar ddiwrnod gêm.
“Mae’n hynod siomedig meddwl bod y profiad traddodiadol ar ddiwrnod gêm dan fygythiad gan ddigwyddiadau diweddar, ac y gallem gael ein gorfodi i edrych ar fesurau ychwanegol a fydd yn effeithio ar brofiad cefnogwyr yn y dyfodol.”
“Doedd dim y gallai’r swyddogion ei wneud”
Pan ofynnwyd iddo am y digwyddiad ddydd Sadwrn, dywedodd hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac: “Dydych chi ddim eisiau gweld hynny yn y gêm, mae’n siomedig iawn bod hynny wedi digwydd ond doedd dim y gallai’r swyddogion ei wneud.
“Efallai bod y digwyddiad wedi tynnu sylw’r chwaraewyr – ond doedd dim llawer mwy y gallai’r swyddogion fod wedi’i wneud. Mae’n rhaid iddyn nhw ddelio â hynny fel y gwnaethon nhw.”