Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi bod “ar flaen y gad” yn yr ymgyrch i ganiatáu i gefnogwyr sefyll mewn stadiymau pêl-droed ym Mhrydain, yn ôl Tim Hartley sy’n cefnogi Caerdydd.

Fe fydd Caerdydd yn un o’r clybiau lle bydd modd i gefnogwyr sefyll yn ystod gemau o fis Ionawr.

Daeth cadarnhad gan Nigel Huddleston, Gweinidog Chwaraeon San Steffan, fod trwydded wedi’i rhoi i’r Adar Gleision, Manchester United, Manchester City, Spurs a Chelsea i weithredu’r cynllun peilot.

Fe fu gwaharddiad ar sefyll ers chwarter canrif, a hynny yn bennaf o ganlyniad i drychineb Hillsborough yn Sheffield yn 1989 pan gafodd cefnogwyr eu gwasgu i farwolaeth.

“Bryd hynny (1989), beiwyd y cefnogwyr am yr hyn ddigwyddodd yn y gêm, ond wrth gwrs roedd llawer ohonom yn ymwybodol mai problemau gyda stiwardio a phlismona oedd wrth wraidd hyn,” meddai Tim Hartley wrth golwg360.

“Ac wrth gwrs y cefnogwyr sydd wedi talu’r pris ers hynny trwy fethu â chefnogi timau ledled y wlad yn y ffordd draddodiadol, sef sefyll ar y terasau ysgwydd yn ysgwydd.

“Arbrawf yn unig yw hyn, ond mae e i’w groesawu a dw i mor falch i weld fy nghlwb i – Caerdydd – yn chwarae rhan.

“Does dim amheuaeth gyda fi y bydd yr arbrawf yn llwyddiant ac mae’n rhaid i ni ddiolch i bawb sydd wedi bod ymghlwm â’r ymgyrch yma ers degawdau i wneud yn iawn ar ran y cefnogwyr.

“Roedd Cymru a Chaerdydd ar flaen y gad, dw i’n cofio Cadeirydd Ymddiriydolaeth Cefnogwyr Caerdydd yn gwahodd y Safe Standing Roadshow i Gaerdydd, a gwahodd Andrew RT Davies, Kevin Brennan yr Aelod Seneddol, a Mark Drakeford i dafarn y Ninian Park i weld bod y seti yma yn saff.

“Ac wrth gwrs, Senedd Cymru oedd y ddeddfwrddfa gyntaf ym Mhrydain i gefnogi’r arbrawf yma.”

‘Cam i’r cyfeiriad cywir – ond angen pwyllo’

“Felly mae hyn yn newyddion da iawn i gefnogwyr, ond o bosib mae angen i ni bwyllo hefyd,” rhybuddia Tim Hartley wedyn.

“Dw i ddim yn rhagweld y bydd terasau traddodiadol gyda miloedd o bobol yn sefyll yn dychwelyd fel yr oedden nhw, oherwydd rail seating yw’r math yma o beth.

“Y peryg yw y bydd yn rhaid i chi sefyll yn eich unfan a methu ymwneud â dathlu gyda ffrindiau ledled y teras.

“Ond mae’n gam i’r cyfeiriad cywir.”

Yr Adar Gleision am dreialu mannau sefyll diogel yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Maen nhw’n un o bump o glybiau sydd wedi cael trwydded