Fe fydd Clwb Pêl-droed Caerdydd yn un o’r clybiau lle bydd modd i gefnogwyr sefyll yn ystod gemau o fis Ionawr.

Daeth cadarnhad gan Nigel Huddleston, Gweinidog Chwaraeon San Steffan, fod trwydded wedi’i rhoi i’r Adar Gleision, Manchester United, Manchester City, Spurs a Chelsea i weithredu’r cynllun peilot.

Fe fu gwaharddiad ar sefyll ers chwarter canrif, a hynny yn bennaf o ganlyniad i drychineb Hillsborough yn Sheffield yn 1989 pan gafodd cefnogwyr eu gwasgu i farwolaeth.

Mae Lerpwl eisoes yn cynnal eu harbrawf eu hunain, ond nid ar gyfer gemau cyfan ac fe fyddan nhw’n gwneud penderfyniad ar gyfer y dyfodol ar ddiwedd y tymor.

Mae disgwyl penderfyniad parhaol am glybiau eraill ar ôl i’r cynllun peilot ddod i ben.

Bydd y cynllun yn cael ei fonitrio gan y cwmni annibynnol CFE Research, a bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud penderfyniad ar sail eu hargymhellion ar gyfer y tymor nesaf.

Croeso gofalus a gwrthwynebiad

Daw’r cynllun ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymrwymo iddo yn eu maniffesto etholiad yn 2019.

Mae gan y cynllun gefnogaeth drawsbleidiol.

Ond mae Mark Roberts, Prif Gwnstabl Heddlu Sir Caer, wedi beirniadu’r “brys gwyllt” i gyflwyno mannau sefyll diogel.

“Fy mhryder yw eich bod chi’n cael gormod o symud i’r ardal oherwydd ei bod yn ddeniadol i rai cefnogwyr ac mae’n haws iddyn nhw sefyll,” meddai wrth The Times.

“Mae’n bosib y cewch chi broblemau o ran gorboblogi.

“Mae’n bosib y cewch chi dorfeydd o ddynion yn bennaf, a llai o blant a phobol hŷn.

“Mae hynny’n mynd i yrru ymddygiad sy’n cau pobol allan yn nhermau iaith ac ymddygiad.”

Mae’r ymgyrchydd Jon Darch hefyd yn rhybuddio am faterion diogelwch yn ymwneud â’r polisi, gan gynnwys symud seddi o’r ffordd er mwyn creu lle i sefyll.

Mae’n dweud y bydd y cynllun hefyd yn gwneud gwaith y gwasanaethau brys yn fwy anodd, wrth iddyn nhw geisio cael mynediad at gefnogwyr sydd angen triniaeth.

“Mae hynny’n destun siom sylweddol ac os yw’r Uwch Gynghrair am fod yn esiampl berffaith o ran arfer da diogelwch stadiymau, yna mae angen sylw brys i’r peth.”