Mae’r Gymraes Natasha Cockram yn dweud ei bod hi’n difaru iddi beidio mynd am y fuddugoliaeth yn gynt, ar ôl iddi ennill Marathon LA yn Los Angeles.

Ar ôl gorffen yn drydydd ar ddeg ym Marathon Llundain fis diwethaf, cwblhaodd hi’r ras Americanaidd mewn dwy awr, 33 munud ac 17 eiliad.

Mae’r rhedwr o Gwmbrân wedi ennill $6,000 yn dilyn ei llwyddiant.

“Do’n i ddim yn siŵr sut fyddai fy nghorff yn teimlo ar ôl Llundain,” meddai wrth wefan ESPN.

“Tua’r hanner ffordd, ro’n i’n teimlo’n sicr ac yn gyfforddus.

“Dw i’n ryw ddifaru nad o’n i wedi mynd yn gynt.”