Mae Alan Knill wedi dweud wrth golwg360 y bydd e’n parhau i weithio gyda thîm pêl-droed Cymru ar ôl cael ei benodi’n is-reolwr Middlesbrough.

Daeth cadarnhad o’i benodiad pan gyhoeddodd y clwb dros y penwythnos fod Chris Wilder wedi’i benodi’n rheolwr y clwb yn y Bencampwriaeth, gan olynu Neil Warnock.

Fe fu’n aelod o dîm hyfforddi Rob Page gyda Chymru ers mis Awst, wrth i’r tîm cenedlaethol geisio cyrraedd Cwpan y Byd.

“Dw i wedi ei mwynhau hi’n fawr iawn,” meddai am ei swydd gyda Chymru.

“Dw i’n mwynhau gweithio gyda Rob a Kit [Symons] yn fawr iawn, a’r staff arall, ac mae’r chwaraewyr yn wych.

“Mae’r awyrgylch yn debyg iawn i glwb, mae’r chwaraewyr mor agos at ei gilydd ac yn dod ymlaen yn dda, ac mae’n fy atgoffa i o Sheffield United pan aethon ni yno.

“I fi hefyd, rydych chi’n cyrraedd rhyw lefel o hyfforddi cyn chwilio am rywbeth arall i ddysgu ohono fe, ac mae [hyfforddi Cymru] wedi dod ar yr adeg iawn i fi.

“Mae’n brofiad dysgu ar y lefel ryngwladol, a dw i wedi cymryd cryn dipyn allan ohono fe’n barod a bydda i’n tynnu ar hynny yn fy swydd newydd.”

O ran y dyfodol hirdymor, mae’n dweud nad yw’n gwybod beth sydd ar y gorwel.

“Es i i mewn i’r swydd heb wybod beth oedd y cyflog hyd yn oed, doedd dim ots gyda fi os oedd yna gyflog, ro’n i jyst eisiau’r profiad a helpu Rob achos dw i’n credu ei fod e’n dda iawn.

“Does dim syniad gyda fi beth sydd i ddod yn y dyfodol ond ar hyn o bryd, mae pawb yn mwynhau gweithio gyda’n gilydd.”

Caerdydd?

Yn fwyaf diweddar, roedd Chris Wilder yn cael ei gysylltu â swydd rheolwr Caerdydd ar ôl i Mick McCarthy gael ei ddiswyddo, ond mae Alan Knill wedi dweud wrth golwg360 nad yw’n credu bod y sïon yn gywir.

“Na, dw i ddim yn meddwl,” meddai.

“Ond ro’n i’n meddwl y bydden ni’n cael swydd achos mae Chris wedi gwneud yn dda ac rydyn ni wedi bod yn llwyddiannus,” meddai.

“Felly mater o ‘pryd’ oedd e.

“Rhaid i fi gyfaddef, do’n i ddim yn disgwyl Middlesbrough.

“Fe gawson ni ambell gynnig arall wnaethon ni eu gwrthod, a daeth Middlesbrough i mewn ac roedden ni’n dau yn teimlo ei fod yn rhywbeth nad oedden ni’n gallu ei wrthod.

“Mae’n glwb da, mae’r cyfleusterau hyfforddi’n anhygoel, ac mae’r perchennog [Steve Gibson] yn berchennog da iawn ac fe wnaeth hynny y dewis yn hawdd mewn gwirionedd.”

Fe fydd y swydd newydd yn gweld Alan Knill yn ailafael yn ei berthynas broffesiynol gyda Chris Wilder unwaith eto, yn dilyn cyfnod llwyddiannus yn Sheffield United.

Cafodd y ddau eu penodi yn Bramall Lane yn 2016, ac roedden nhw ar waelod yr Adran Gyntaf o fewn dim o dro.

Ond aethon nhw yn eu blaenau i ennill y gynghrair gyda record o 100 o bwyntiau wrth ennill dyrchafiad i’r Bencampwriaeth.

Roedden nhw ar frig y Bencampwriaeth erbyn 2019, ac fe sicrhaon nhw eu lle yn Uwch Gynghrair Lloegr ar ddiwedd y tymor, eu hail ddyrchafiad gyda’r clwb o fewn tair blynedd, gyda Wilder yn cael ei enwi’n Rheolwr y Flwyddyn Cymdeithas Rheolwyr y Gynghrair.

Gorffennodd Sheffield United yn nawfed yn yr Uwch Gynghrair yn eu tymor cyntaf yn ôl yn y brif adran, ond fe adawodd Wilder a Knill y clwb fis Mawrth eleni gyda’r clwb ar waelod yr adran.

“Fe gawson ni lwyddiant dros y saith neu wyth mlynedd diwethaf yn yr Ail Adran, yr Adran Gyntaf a’r Bencampwriaeth ac roedd cyrraedd yr Uwch Gynghrair yn binacl,” meddai.

“Rydyn ni’n gweithio’n dda iawn gyda’n gilydd, ac mae Chris yn rheolwr anhygoel ac yn gadael i fi wneud y gwaith hyfforddi o dan ei oruchwyliaeth e.

“Felly mae’n gweithio’n dda iawn.”

Ailadrodd llwyddiant

Mae’n dweud ei fod e’n hyderus y gallan nhw fod yn llwyddiannus unwaith eto gyda’u clwb newydd.

“Rydych chi bob amser yn mynd i mewn iddi’n hyderus,” meddai.

“Dw i’n meddwl bod y cyfarpar gyda ni, mae’r cyfleusterau hyfforddi’n dda iawn ac rydyn ni wedi bod yn gwylio’r tîm a’r Bencampwriaeth dipyn achos roedden ni’n disgwyl i’n swyddi nesaf fod yn y Bencampwriaeth.

“Dydyn ni ddim yn meddwl eu bod nhw ymhell iawn ohoni.

“Y syniad yw eich bod chi’n dod i mewn, mae popeth yn mynd yn wych ac rydych chi’n dychwelyd i’r Uwch Gynghrair, dyna freuddwyd pawb ac yn sicr y cadeirydd.

“Dydyn ni ddim yn gwybod pryd fydd hynny, ond dyna’r nod yn sicr.”

Gêm yn erbyn Abertawe i ddod

Trwy gyd-ddigwyddiad, ymhlith gwrthwynebwyr cyntaf Middlesbrough mae Abertawe, un o hen glybiau cyn-amddiffynnwr canol Cymru.

“Ro’n i yn Abertawe amser maith yn ôl!” meddai.

“Mae Abertawe’n dda ac yn gwneud yn dda, ac mae ganddyn nhw reolwr da [Russell Martin], felly bydd hi’n gêm anodd.”

Ond mae’n dweud bod gêm fwy cyffrous ar y gorwel.

“Yr un wnaethon ni i gyd edrych arni oedd y ffaith ein bod ni’n chwarae yn erbyn Sheffield United ar Ddydd Calan, felly dyna’r un wnaethon ni i gyd edrych arni gyntaf.

“Mae’r Bencampwriaeth yn taflu cynifer o gemau o fathau gwahanol i fyny – un funud rydych chi’n chwarae yn erbyn Abertawe a’r funud nesaf yn erbyn West Brom, felly mae’n rhaid i chi addasu mor gyflym.”