Mae Ellis Jenkins yn mynnu bod gwell i ddod ganddo fe, ar ôl chwarae dros dîm rygbi Cymru am y tro cyntaf ers tair blynedd.

Cafodd ei ddewis yn y rheng ôl ar gyfer y gêm yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn (Tachwedd 6) – y gwrthwynebwyr y tro diwethaf iddo wisgo crys Cymru yn 2018, pan gafodd e anaf i’w benglin.

Ond colli oedd hanes Cymru, a hynny o 23-18 yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, ac fe orffennodd e’r gêm yn gapten ar ôl i’r canolwr Jonathan Davies adael y cae.

“Yn bersonol, rydych chi bob amser yn ceisio gosod nodau tymor byr a thymor hir i chi eich hun,” meddai.

“Byddai [Cwpan y Byd] yn sicr yn un, ond mae llawer o amser cyn hynny.

“Hon oedd fy ngêm gyntaf yn ôl yng nghrys Cymru, ac mae gen i lawer o bethau i weithio arnyn nhw o hyd.

“Am ychydig dros ddwy flynedd, fy unig nod oedd dychwelyd i’r cae.

“Ers i fi ddychwelyd, ceisio dychwelyd i le’r oeddwn i yw e.

“Mae dychwelyd i chwarae’n wych, ond dw i eisiau dychwelyd i chwarae ar lefel dw i’n credu y galla i ei chyrraedd wrth chwarae.

“Dw i ddim yno eto, dw i ddim yn meddwl, ond dw i’n fodlon gweithio’n galed i gyrraedd yno, a dyna dw i eisiau ei gyflawni.

“Dw i’n ceisio dychwelyd i le’r ydw i’n gorfforol – neu gorau gallaf – sy’n cymryd tipyn o waith.

“Ond dw i’n ceisio dychwelyd i’r trywydd iawn er mwyn cyrraedd yno.”

Canmoliaeth

Cafodd Ellis Jenkins gryn ganmoliaeth gan ei wrthwynebydd, capten De Affrica, Siya Kolisi, ar ôl y gêm.

“Mae e’n amlwg yn foi gwych, on’d yw e, Siya?” meddai Jenkins.

“Fe ddywedodd e, ‘Mae’n wych dy weld di ’nôl’.

“Fe anfonodd e grys ata’i o’r gêm yn 2018 pan chwaraeon ni, pan ges i fy anafu.

“Roedd Siya gyda’r Barbariaid ychydig wythnosau wedyn, ac fe anfonodd e ei grys ata’ i.”