Mae tîm rygbi merched Cymru wedi curo Japan o 23-5 ar Barc yr Arfau.

Cafodd y cefnwr Jaz Joyce ei henwi’n seren y gêm.

Daeth cais cynta’r gêm ar ôl munud yn unig, wrth i’r capten Siwan Lillicrap groesi wedi i’r pac hyrddio drosodd o’r sgarmes symudol yn dilyn lein bum metr allan.

Fe wnaethon nhw ymestyn eu mantais ar ôl 25 munud, gydag Elinor Snowsill yn llwyddiannus â chic gosb o 30 metr.

Parhau i bwyso wnaeth sgrym Cymru, ac fe gawson nhw gic gosb arall, wrth i Snowsill ychwanegu triphwynt arall i’w gwneud hi’n 11-0 ar yr egwyl.

Chwe munud i mewn i’r ail hanner, cafodd Georgia Evans gerdyn melyn am fwrw’r bêl ymlaen yn fwriadol, ond wnaeth hynny ddim effeithio’n ormodol ar Gymru wrth i Jaz Joyce ddawnsio trwy’r amddiffyn a chroesi ar ôl i Gymru ledu’r bêl, a’r trosiad yn ei gwneud hi’n 18-0.

Ychwanegodd Joyce bum pwynt arall at y sgôr saith munud cyn y diwedd, ac roedd hi’n edrych yn debygol na fyddai Cymru’n ildio yn y gêm cyn i Seina Saito sgorio cais cysur i’r ymwelwyr.

De Affrica fydd eu gwrthwynebwyr nesaf yr wythnos nesaf.