Gyda charfan ddiweddaraf Rob Page wedi ei henwi ddechrau’r wythnos, gweld chwaraewyr Cymru’n cadw’n glir o anafiadau wrth chwarae i’w clybiau a oedd prif obaith y Wal Goch y penwythnos hwn.
*
Uwch Gynghrair Lloegr
Eilyddion heb eu defnyddio a oedd Wayne Hennessey a Connor Roberts i Burnley ddydd Sadwrn ac felly hefyd Fin Stevens i Brentford.
Dechreuodd Dan James i Leeds ddydd Sul a hynny fel blaenwr mewn gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Caerlŷr. Ymunodd Tyler Roberts ag ef ar y cae am y munudau olaf ond ar fainc y gwrthwynebwyr yr oedd Danny Ward.
Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i Joe Rodon ers ymuno â Tottenham Hotspur. Bellach yn chwarae i’w bedwerydd rheolwr, nid yw wedi llwyddo i greu digon o argraff ar yr un ohonynt i sicrhau rhediad hir yn y tîm. Antonio Conte yw’r gŵr diweddaraf wrth y llyw sydd yn golygu un peth yn sicr, tri yn y cefn! Nid yw Rodon wedi bod yn rhan o’r tri eto ond mae’n newyddion gwell i Ben Davies sydd wedi dechrau ar ochr chwith yr amddiffyn yn erbyn Vitesse ganol wythnos ac eto ar gyfer y gêm ddi sgôr yn erbyn Everton ddydd Sul.
Ar y fainc yr oedd Neco Williams wrth i Lerpwl deithio i Lundain i wynebu West Ham yn y gêm hwyr ddydd Sul.
*
Y Bencampwriaeth
Cafodd Caerdydd eu buddugoliaeth gyntaf mewn un gêm ar ddeg wrth iddynt daro nôl i drechu Huddersfield gyda dwy gôl hwyr ddydd Sadwrn. Ac roedd y Cymry yn ei chanol hi; Kieffer Moore yn sgorio’r ddwy gyda dau beniad nodweddiadol a’r ail yn cael ei chreu gan waith gwych yr eilydd ifanc, Isaak Davies.
Dod i’r cae yn lle Cymro arall a wnaeth Davies, fel eilydd yn lle Mark Harris, ac roedd munudau i Rubin Colwill a Will Vaulks hefyd oddi ar y fainc. Roedd Sorba Thomas yn nhîm y gwrthwynebwyr a chreodd argraff unwaith eto er mai ef oedd ar fai am ildio’r meddiant ar gyfer gôl fuddugol Caerdydd.
Nid oedd hi’n brynhawn cystal i Abertawe, yn cael crasfa oddi cartref yn erbyn y tîm ar y brig, Bournemouth. Eilyddion heb eu defnyddio a oedd Ben Cabango a Liam Cullen i’r Elyrch ac felly hefyd Chris Mepham i’r gwrthwynebwyr.
Fulham sydd yn ail yn y tabl yn dilyn dwy fuddugoliaeth yr wythnos hon, un swmpus iawn yn erbyn Blackburn nos Fercher ac un o gôl i ddim yn erbyn Peterborough ddydd Sadwrn. Sgoriodd Harry Wilson ddwywaith ganol wythnos ac roedd yn y tîm eto ar gyfer y daith i London Road. Dave Cornell a oedd yn y gôl i’r tîm cartref yn y gêm honno ac mae sôn ei fod yntau ar gyrion y garfan genedlaethol erbyn hyn ar ôl chwarae’n gyson yn y Bencampwriaeth.
Mae Stoke yn bumed ar ôl curo Luton o gôl i ddim. Chwaraeodd Joe Allen y gêm gyfan ond ar y fainc yr oedd Adam Davies a James Chester. Nid oedd Tom Lockyer yng ngharfan Luton ar gyfer y gêm hon ar ôl cael ei adael allan o’r garfan genedlaethol hefyd.
Ym mhen arall y tabl, roedd gêm gyfartal gôl yr un i Derby ym Millwall. Tom Lawrence a greodd unig gôl ei dîm ar ôl gwneud hynny yn y gêm ganol wythnos yn erbyn Barnsley hefyd. Dechrau ar y fainc a wnaeth Tom Bradshaw i Millwall cyn chwarae’r chwarter awr olaf.
Hull a aeth â hi mewn gêm bwysig arall tua’r gwaelodion, yn trechu Barnsley o ddwy gôl i ddim ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Matthew Smith i’r Teigrod, un arall sydd wedi colli’i ei le yng ngharfan Cymru’n ddiweddar.
Cafodd Rhys Norrington-Davies ei enwi yng ngharfan Page ond mae peth amheuaeth a fydd yn ymuno â hi. Nid yw cefnwr chwith Sheffield United wedi chwarae llawer yn ddiweddar ac roedd yn absennol ar gyfer buddugoliaeth ei dîm yn erbyn Blackburn y penwythnos hwn.
Mae tymor Brennan Johnson yn mynd o nerth i nerth. Ar ôl creu unig gôl ei dîm yn y gêm gyfartal ganol wythnos yn erbyn Sheffield United, creodd ddwy arall, i Lewis Grabban y tro hwn, yn y fuddugoliaeth o dair i ddim dros Preston ar y penwythnos. Prynhawn i’w anghofio i Andrew Hughes yn amddiffyn y gwrthwynebwyr felly.
Ac roedd un newydd cyffrous arall o’r Bencampwriaeth i gefnogwyr Cymru’r wythnos hon wrth i’r bachgen ifanc, Jordan James, wneud ei ymddangosiad cyntaf i Birmingham ganol wythnos fel eilydd hwyr yn y fuddugoliaeth dros Bristol City. Roedd yn y garfan eto ddydd Sadwrn ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd yn erbyn Reading.
*
Cwpan FA
Roedd hi’n benwythnos rownd gyntaf y Cwpan FA y penwythnos hwn gyda llu o Gymry o amrywiol gynghreiriau yn cael cyfle i greu argraff yn y gystadleuaeth chwedlonol. Y tri y bydd gan gefnogwyr Cymru’r mwyaf o ddiddordeb ynddynt efallai yw’r tri a enwyd yng ngharfan ddiweddaraf y tîm cenedlaethol, Chris Gunter, Jonny Williams a Joe Morrell.
Nid oedd Gunter (nac Adam Matthews) yng ngharfan Charlton ar gyfer eu buddugoliaeth gyfforddus dros Havant & Waterlooville.
Chwaraeodd Morrell y naw deg munud wrth i Portsmouth guro Harrow o gôl i ddim a daeth Louis Thompson oddi ar y fainc am y deunaw munud olaf.
Dechreuodd Williams fuddugoliaeth Swindon o dair gôl i un yn erbyn Crewe cyn cael ei eilyddio hanner ffordd trwy’r ail hanner. Er, roedd mwy o ddiddordeb Cymreig yn nhîm y gwrthwynebwyr mewn gwirionedd gyda Dave Richards, Billy Sass-Davies a Tom Lowery i gyd yn chwarae.
Ambell bennawd Cymreig arall o’r rownd gyntaf a oedd gôl Wes Burns yng ngêm gyfartal Ipswich gydag Oldham a gôl Joe Jacobson o’r smotyn i Wycombe yn Hartlepool. Dechreuodd Sam Vokes y gêm honno hefyd ac roedd ymddangosiad prin i’r gôl-geidwad, Adam Przbek.
Gwerth nodi hefyd i Nathan Broadhead gael cyfle prin o’r dechrau i Sunderland yn wrth iddynt golli o gôl i ddim yn erbyn Mansfield. Nid yw cyfnod blaenwr Everton ar fenthyg gyda’r Cathod Du wedi bod yn un rhy lwyddiannus hyd yma.
*
Yr Alban a thu hwnt
Daeth perfformiad y penwythnos Uwch Gynghrair yr Alban yn Tynecastle ddydd Sadwrn wrth i Hearts drechu Dundee United o bum gôl i ddwy. Ben Woodburn a oedd seren y gêm wedi iddo sgorio’r gyntaf a’r drydedd – ei goliau cyntaf ers ymuno â’r Albanwyr ar fenthyg o Lerpwl. Nid oedd Dylan Levitt yng ngharfan Dundee United ar gyfer y gêm er ei fod wedi dechrau pob gêm yn ddiweddar felly gwyliwch y gofod am ddiweddariad carfan!
Dechreuodd Ryan Hedges a Marley Watkins i Aberdeen wrth iddynt golli o ddwy gôl i ddim yn erbyn Motherwell ddydd Sadwrn.
Colli fu hanes Owain Fôn Williams ym Mhencampwriaeth yr Alban, mae Dunfermline yn aros ar waelod y tabl ar ôl colli o dair i un yn erbyn Greenock Morton.
Byddai wedi bod yn braf gweld Gareth Bale yn cael ychydig o funudau yn ei goesau cyn y ffenestr ryngwladol ond nid felly y bu wrth i gêm Real Madrid yn erbyn Rayo Vallecano ddydd Sadwrn ddod yn rhy fuan i’r Cymro wedi anaf.
Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Aaron Ramsey wrth i Juventus guro Fiorentina yn Serie A ddydd Sadwrn. Roedd canlyniad gwych i Venezia ddydd Sul, yn trechu Roma o dair gôl i ddwy gydag Ethan Ampadu yn serennu yng nghanol y cae unwaith eto, mae’r Cymro yn chwarae’n rheolaidd ac yn creu argraff yn yr Eidal.
Yn yr Almaen, nid oedd gan St. Pauli James Lawrence gêm y penwythnos hwn ac yng Ngwlad Belg, nid oedd tîm Rabbi Matondo, Cercle Brugge, yn herio Genk tan yn hwyr nos Sul.