Mae Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, ymhlith y ffefrynnau ar gyfer swydd rheolwr Norwich.

Daw hyn ar ôl i Daniel Farke gael ei ddiswyddo yn dilyn buddugoliaeth gynta’r tymor i’r Caneris ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 6), wrth iddyn nhw guro Brentford oddi cartref o 2-1.

Maen nhw ar waelod tabl Uwch Gynghrair Lloegr ar hyn o bryd.

Graham Potter oedd y rheolwr diwethaf i adael yr Elyrch am un o glybiau’r Uwch Gynghrair, Brighton, ac mae lle i gredu bellach fod Potter yn y ras i olynu Dean Smith, sydd newydd gael ei ddiswyddo gan Aston Villa.

Norwich a Russell Martin

Ymunodd Russell Martin â Norwich ar fenthyg fis Tachwedd 2009, ac fe ymunodd yn barhaol ddeufis yn ddiweddarach, gan lofnodi cytundeb dwy flynedd a hanner.

Sgoriodd ei gôl gyntaf â’i ben wrth i Norwich golli o 3-1 yn erbyn Doncaster, a daeth ei gôl nesaf rai misoedd yn ddiweddarach wrth i’w dîm guro QPR ar Ddydd Calan 2011.

Sgoriodd e eto yn erbyn Caerdydd i unioni’r sgôr yn y funud olaf, ac fe gafodd e’r ffugenwau “Cafu y Bencampwriaeth” a “Cafu Norfolk”.

Daeth e’n ail yn y ras am Chwaraewr y Flwyddyn Norwich y tymor hwnnw, y tu ôl i Grant Holt wrth chwarae bob munud o bob gêm.

Llofnododd e gytundeb tair blynedd newydd yn 2012 ar ôl i Norwich ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair, ac fe sgoriodd e ddwy gôl yn erbyn Manchester City wrth iddyn nhw golli o 4-3 y mis Rhagfyr hwnnw.

Llofnododd e gytundeb tair blynedd newydd eto yn 2013, ac fe gafodd ei enwi’n gapten y clwb gan ddweud y byddai’n awyddus i fod yn rheolwr ar ôl ymddeol.

Enillodd Norwich ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair ar ddiwedd tymor 2014-15 ar ôl ennill y gemau ail gyfle, flwyddyn yn unig ar ôl gostwng i’r Bencampwriaeth.

Ond un tymor yn unig wnaethon nhw bara eto cyn dychwelyd i’r Bencampwriaeth.

Llofnododd e gytundeb tair blynedd newydd yn 2017, ond prin oedd ei gyfleoedd yn y tîm cyntaf wedyn, cyn mynd i Rangers ar fenthyg yn yr Alban ac yna i Walsall yn barhaol.

Ar ôl dechrau sigledig i’r tymor gyda’r Elyrch wrth geisio cyflwyno dull newydd o chwarae, mae’r tîm bellach yn ddeuddegfed yn y Bencampwriaeth, ac mae Russell Martin wedi cael ei ganmol am ei waith hyd yn hyn.

Ond Frank Lampard yw’r ffefryn ar gyfer y swydd, gyda Martin y tu ôl iddo.