Fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru golled o £1m yn ystod tri mis cyntaf pandemig Covid-19, yn ôl cyfrifon.

Roedd canslo gemau’r dynion a gohirio Ewro 2020 yn sgil y coronafeirws wedi cyfrannu at sefyllfa ariannol y Gymdeithas.

Mae cyfrifon yn dangos colled o £1.032m ar ôl treth, a hynny ar ôl gwneud elw o £264,520 y flwyddyn gynt.

Roedd gostyngiad o 5% yn eu trosiant, o £15.319m i £14.565m yn ystod y cyfnod dan sylw.

Roedd y Gymdeithas wedi paratoi i chwarae holl gemau tymor 2020-21 heb dorfeydd, gan neilltuo £8.9m ond dychwelodd torfeydd fis Mehefin ar gyfer gemau rhagbrofol y dynion a gêm gyfeillgar yn erbyn Albania cyn yr Ewros.

Roedd Jonathan Ford, y cyn-brif weithredwr, wedi bod yn rhybuddio am effeithiau’r pandemig ar sefyllfa ariannol y Gymdeithas, ac fe gawson nhw gymorth gan Fifa, y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Genedlaethol yn ddiweddarach, gyda nifer o staff hefyd yn mynd ar ffyrlo.

Darlledu oedd yn gyfrifol am incwm mwya’r Gymdeithas, gan gyfrannu £6.36m at y coffrau.