Mae Alan Knill, sydd wedi bod yn aelod o dîm hyfforddi Rob Page yn ystod ymgyrch ragbrofol Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd, wedi cael ei benodi’n is-reolwr Middlesbrough.

Fe ddaw ar ôl i Chris Wilder, oedd wedi bod ymhlith y ffefrynnau ar gyfer swydd rheolwr Caerdydd, gael ei benodi’n rheolwr ar y clwb yn y Bencampwriaeth.

Fe adawodd y ddau Sheffield United ym mis Mawrth.

O dan arweiniad Wilder a Knill, cyn-amddiffynnwr canol Cymru, aeth Sheffield United o’r Adran Gyntaf i’r Uwch Gynghrair, ond fe adawon nhw’r clwb pan oedden nhw ar waelod yr Uwch Gynghrair.

Mae Middlesbrough yn bedwerydd ar ddeg yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd.

Mae Wilder yn olynu Neil Warnock, cyn-reolwr Caerdydd, oedd wedi gadael Middlesbrough ar ôl gêm gyfartal yn erbyn West Brom ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 6).

Pan ddaeth yn aelod o dîm hyfforddi Cymru, fe fu’n siarad â golwg am natur ei waith gyda’r tîm cenedlaethol, gan egluro y byddai’n debyg i’w waith yn Sheffield United.

“O ran bod yn Sheffield United, roedden ni yn yr Adran Gyntaf ac fe aethon ni yr holl ffordd i’r Uwchgynghrair, felly gallwch chi weld beth sydd angen i’r chwaraewyr ei wneud ar bob lefel,” meddai.

“Fydd [pêl-droed rhyngwladol] ddim yn wahanol mewn gwirionedd, mae’n gam arall i’r chwaraewyr hyn. Dw i wir yn edrych ymlaen at eu gwylio nhw.”

Gobaith i Gymru er gwaetha’r siom

Alun Rhys Chivers

“Byddech chi’n meddwl bod y Weriniaeth Tsiec am fod yn gêm anodd ond bydd gyda ni chwaraewyr yn dychwelyd, Aaron Ramsey gobeithio, Kieffer [Moore]”

O gysgodi Marco van Basten i gynorthwyo rheolwr Cymru

Alun Rhys Chivers

Mae olynydd Albert Stuivenberg yn edrych ymlaen at ail gyfle i fod yn rhan o garfan Cymru fel aelod o dîm hyfforddi Rob Page