Mae Ryan Reynolds, un o ddau berchennog byd-enwog Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi dweud ei fod e’n “caru’r dref, y gymuned a’i hanes”.

Gwnaeth y sylwadau wrth ymddangos ar raglen deledu Jonathan Ross ar ITV neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 6).

Roedd e’n ymddangos ar y rhaglen i hyrwyddo’i  ffilm newydd Red Notice gyda Dwayne ‘The Rock’ Johnson.

Ond wrth i’r sgwrs ddirwyn i ben, cyfeiriodd Jonathan Ross at ei benderfyniad i brynu Clwb Pêl-droed Wrecsam gyda Rob McElhenney, gan ddweud ei fod yn “beth rhyfedd i’w wneud”.

“Mae’n annisgwyl, am wn i,” cyfaddefodd yr actor o Ganada.

“Mae’n annisgwyl iawn, ond yn un o’r pethau gorau dw i erioed wedi bod yn rhan ohono.

“Dw i’n caru tref Wrecsam yn llwyr, mae’r dref a’r gymuned yn… a’r holl hanes y tu ôl iddi…”

Daeth y sgwrs i ben gyda fideo o’r gynhadledd i’r wasg gynhaliodd Reynolds a McElhenney ar y Cae Ras, wrth iddyn nhw fynd i gêm Wrecsam am y tro cyntaf.