Mae un o gricedwyr yr Alban yn dweud ei fod e’n gobeithio bod perfformiadau’r tîm yng nghystadleuaeth ugain pelawd Cwpan y Byd wedi ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf yn y wlad.
Daeth eu hymgyrch i ben yn Sharjah wrth iddyn nhw golli o 72 rhediad yn erbyn Pacistan ddoe (dydd Sul, Tachwedd 7).
Fe wnaethon nhw orffen ar waelod eu grŵp ar ddiwedd y Super 12s ar ôl colli pum gêm yn olynol, ond doedd dim disgwyl iddyn nhw gyrraedd y rowndiau olaf fel y gwnaethon nhw, ar ôl curo Bangladesh yn annisgwyl i gyrraedd y Super 12s a churo Papua Guinea Newydd ac Oman ar eu ffordd.
Cawson nhw eu bowlio allan am 60 yn unig gan Affganistan, a dim ond 24.1 o belawdau barodd y gêm yn erbyn India wrth iddyn nhw golli o wyth wiced.
Ond roedd eu perfformiad yn erbyn Seland Newydd yn un cofiadwy er iddyn nhw golli o 16 rhediad.
‘Nid dyma’r diwedd’
Yn ôl Kyle Coetzer, megis dechrau mae taith griced yr Alban.
Dywedodd Calum McLeod, un arall o’r chwaraewyr, yn ddiweddar fod y tîm yn awyddus i fanteisio ar y gystadleuaeth i ddangos eu doniau yn y gobaith o ennill statws llawn a chael chwarae mewn gemau prawf ymhlith timau mwya’r byd.
“Dw i’n eithriadol o falch o’r ffordd rydyn ni wedi chwarae a’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni,” meddai Coetzer.
“Mae gyda ni griw gwych ac mae’r bois yn barod i ddysgu ac yn ceisio dysgu mor gyflym ag y gallan nhw.
“Mae cael ein hagor i fyny i’r hyn rydyn ni wedi cael ein hagor i fyny iddo yn y Super 12s ond yn mynd i’n gwneud ni’n gryfach a gwneud i ni sylweddoli rhai o’r sgiliau wnaethon ni eu dangos a’r ymdrech sydd ei angen arnoch chi i gyflawni ar y lefel yma.
“Dw i’n credu ein bod ni wedi dangos sawl gwaith bron beth allwn ni ei gyflawni, mae gyda ni hen ddigon ar ôl yn y tanc.
“Mae digon i’w ddysgu a digon o le i geisio gwella ar ôl i ni fynd adref.
“Mae’n gamp enfawr i gyrraedd y Super 12s ac mae hynny’n sicr am ein rhoi ni mewn lle gwell wrth fynd yn ein blaenau.
“Pan awn ni adref, rhaid i ni fod yn ddewr a sicrhau ein bod ni’n gwthio’r holl sefydliad yn ei flaen.”
Ysbrydoli
Mae’r Alban eisoes wedi sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd yn Awstralia ymhen blwyddyn yn sgil eu perfformiadau y tro hwn.
Ac mae Kyle Coetzer yn gobeithio bod eu taith hyd yn hyn wedi ysbrydoli cricedwyr y dyfodol yn yr Alban.
“Dyna pam ein bod ni yma,” meddai.
“Rydyn ni’n cael y cyfle i geisio ymroi’n llwyr dros ein gwlad a gallu ysbrydoli cynifer o bobol ag y gallwn ni.
“Dyna sut ddechreuais i nifer o flynyddoedd yn ôl, yn gwylio’r Alban yn chwarae yng Nghwpan y Byd, a gobeithio y bydd yna sawl bachgen a merch arall yn dod trwodd fydd eisiau chwarae criced dros eu gwlad.”