Fe wnaeth y cyn-hyfforddwr pêl-droed Barry Bennell, sydd yn y carchar am droseddau rhyw yn erbyn plant, greu amgylchedd deniadol i bobol ifanc, yn ôl un o’i ddioddefwyr sydd wedi bod yn rhoi tystiolaeth yn yr Uchel Lys.

Dywedodd y dyn ei fod e wedi aros yng nghartref “pêl-droed” Barry Bennell yn fachgen.

Mae’n un o wyth dyn, sydd bellach yn eu 40au a’u 50au, sy’n hawlio iawndal gan Glwb Pêl-droed Manchester City.

Mae’r dynion yn dweud bod Barry Bennell, sydd bellach yn 67 oed, wedi eu cam-drin pan oedden nhw’n chwarae pêl-droed yng ngogledd-orllewin Lloegr dros 30 mlynedd yn ôl.

Maen nhw’n honni bod Barry Bennell yn un o sgowtiaid Manchester City pan gawson nhw eu cam-drin.

Mae’r clwb yn gwadu’r honiad hwnnw.

Tystiolaeth

Dywedodd y dyn, nad oes modd ei enwi, ei fod wedi cwrdd â Barry Bennell am y tro cyntaf pan oedd e’n 11 neu 12 oed.

“Cysylltodd â mi a dywedodd ei fod yn sgowt i Manchester City,” meddai’r dyn.

Dywedodd ei fod yn chwarae i dîm dan hyfforddiant Barry Bennell, ei fod e wedi mynd i wylio gemau Manchester City gydag e, a’i fod wedi aros yn ei gartref.

“Roedd yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei wneud,” meddai.

“Roedd yn creu amgylchedd oedd yn denu person ifanc ato.

“Roedd popeth yn ymwneud â phêl-droed.

“Pêl-droed oedd fy myd ac roedd popeth yn cylchdroi o’i gwmpas e [Barry Bennell] ar y pryd.”

‘Colli cariad at bêl-droed’

“Roeddwn i eisiau bod yn bêl-droediwr – dyna roeddwn i’n argyhoeddedig fy mod i’n mynd i fod,” meddai wedyn.

Dywedodd fod cael ei gam-drin Barry Bennell wedi ei effeithio am weddill ei fywyd a’i fod wedi “colli ei gariad” at bêl-droed.

Mae’r llys wedi clywed bod yr wyth dyn wedi cael eu cam-drin yn rhywiol ac yn emosiynol gan Bennell rhwng 1979 a 1985 ac yn hawlio iawndal ar ôl dioddef anafiadau seiciatrig.

Mae chwech hefyd yn hawlio iawndal am golli enillion pêl-droed posibl.

Dywed Clwb Pêl-droed Manchester City fod Barry Bennell yn sgowt lleol yng nghanol y 1970au ond nad oedd yn sgowt rhwng 1979 a 1985.

Mae’r barnwr wedi cael gwybod fod Barry Bennell, cyn hyfforddwr Crewe Alexandra, wedi’i ddedfrydu eisoes i 34 mlynedd yn y carchar ar ôl cael ei ganfod yn euog o droseddau rhyw yn erbyn bechgyn ar bum achlysur gwahanol – pedwar yn y Deyrnas Unedig ac un yn yr Unol Daleithiau.

Mae’n cael ei gadw yng Ngharchar Littlehey, ger Huntingdon, yn Swydd Gaergrawnt.

Mae’r achos yn parhau.