Mae’r Arglwydd Patel, cadeirydd newydd Clwb Criced Swydd Efrog, wedi ymddiheuro wrth Azeem Rafiq, cyn-chwaraewr y clwb, am y ffordd yr aethon nhw ati i gynnal ymchwiliad i honiadau o hiliaeth a bwlio.

Mae’r clwb wedi derbyn cryn feirniadaeth, ac mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi gwahardd y sir rhag cynnal gemau rhyngwladol a gemau mawr eraill hyd nes eu bod nhw’n mynd i’r afael â’r sefyllfa.

Maen nhw hefyd wedi colli cryn dipyn o nawdd gan gwmnïau sydd wedi tynnu eu harian yn ôl yn sgil y ffrae – gan gynnwys Nike, Emerald Publishing, Tetley’s a Yorkshire Tea.

“Chwythwr chwiban yw Azeem ac fe ddylid ei ganmol am hynny, ddylai e fyth fod wedi gorfod goddef hyn,” meddai’r Arglwydd Patel yn ystod cynhadledd i’r wasg.

“Mae’n flin gennym am yr hyn rwyt ti a dy deulu wedi’i brofi, a’r ffordd rydyn ni wedi ymdrin â hyn.

“Rwy’n diolch i Azeem am ei ddewrder wrth godi ei lais.

“Gadewch i fi fod yn glir o’r dechrau’n deg, nid tynnu coes yw hiliaeth na gwahaniaethu o unrhyw fath.”

‘Tynnu coes’

Roedd adroddiad Clwb Criced Swydd Efrog yn cyfeirio at “dynnu coes” rhwng chwaraewyr ar ôl iddyn nhw gynnal ymchwiliad i honiadau Azeem Rafiq.

Roedd yn cynnwys honiadau bod chwaraewr wedi defnyddio geiriau hiliol sawl gwaith wrth siarad â Rafiq, ond nad oedd yr honiadau wedi cael eu derbyn am fod yr iaith honedig wedi cael ei defnyddio yn ystod ‘tynnu coes’ rhwng y ddau.

Yn ôl yr Arglwydd Patel, mae’r clwb a Rafiq wedi dod i gytundeb yn dilyn tribiwnlys, a does dim cyfyngiadau ar Rafiq o ran yr hyn y mae modd iddo ei ddweud yn gyhoeddus.

Mae’r cadeirydd newydd hefyd wedi comisiynu adolygiad annibynnol o weithdrefnau’r clwb mewn perthynas ag amrywiaeth a chynhwysiant.

Ac fe ddywedodd ei fod e wedi siarad â’r ECB am y posibilrwydd o wyrdroi’r gwaharddiad ar gynnal gemau rhyngwladol, ond fod gwaith i’w wneud cyn bod hynny’n bosib.

Mae’n dweud bod yr hyn mae’n ei wybod eisoes am yr helynt yn gwneud iddo deimlo’n “anghyfforddus”, ac “nad oedd y broses wedi’i chyflawni fel y dylai fod wedi’i gwneud”.

Fydd yr adroddiad ddim yn cael ei gyhoeddi’n llawn, meddai, ond fe fydd ar gael i unrhyw un ei weld at ddibenion cyfreithiol, gan gynnwys y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Julian Knight, cadeirydd pwyllgor chwaraeon San Steffan.

Dydy e ddim wedi gwneud sylw eto ynghylch dyfodol y prif weithredwr Mark Arthur na’r cyfarwyddwr criced Martyn Moxon, gyda’r ddau wedi chwarae eu rhan yn yr helynt.

Ymateb Azeem Rafiq

Mewn datganiad, mae Azeem Rafiq wedi ymateb drwy alw eto ar Martyn Moxon a Mark Arthur i gamu o’r neilltu.

Mae e wedi diolch i’w deulu, y cyhoedd, gwleidyddion, y cyfryngau a chwaraewyr a hyfforddwyr sydd wedi ei gefnogi’n “gyhoeddus ac yn breifat”.

Mae e hefyd wedi diolch i’r Arglwydd Patel “am wneud y cynnig ac am fynd i’r afael â hyn o fewn 72 awr ar ôl ei benodiad”.

“Ddylai hi ddim bod wedi cymryd blwyddyn i weddill y clwb sylweddol na fyddwn i’n cael fy nhawelu trwy gytundeb,” meddai.

“Siaradais i oherwydd roeddwn i eisiau creu newid yn y clwb.

“Fe wnes i ddwyn achos oherwydd roedd y clwb yn gwrthod cydnabod y broblem a chreu newid.

“Am y tro cyntaf ers cyn cof, mae gen i obaith y bydd hyn yn digwydd – ond bydda i’n gwylio ac yn parhau i ymgyrchu er mwyn sicrhau ei fod e’n digwydd.

“Fel dywedodd yr Arglwydd Paterl, megis dechrau yw hyn os ydyn ni am wneud criced yn agored i bawb, waeth bynnag am eu cefndir.

“Mae angen diwygio brys ar Glwb Criced Swydd Efrog a’r gamp yn ehangach.”

Ychwanegodd y byddai’n “parhau i ymgyrchu yn erbyn hiliaeth sefydliadol” a’i fod yn “edrych ymlaen” at siarad â phwyllgor seneddol yn San Steffan yr wythnos nesaf.

“Rwy’n ymbil ar bobol eraill sydd wedi dioddef i ddod ymlaen,” meddai wedyn.

“Mae yna undod mewn niferoedd ac fe fydda i y tu ôl i chi.”

Ychwanegodd fod Mark Arthur, Martyn Moxon ac unigolion eraill “wedi bod yn rhan o’r broblem”.

“Maen nhw methu droeon â chymryd cyfrifoldeb am yr hyn ddigwyddodd o dan eu goruchwyliaeth nhw, a rhaid iddyn nhw fynd,” meddai wedyn.

“Rwy’n eu hannog nhw i wneud y peth iawn ac ymddiswyddo a gwneud lle i’r sawl fydd yn gwneud yr hyn sydd ei angen ar gyfer dyfodol y clwb.”

 

Azeem Rafiq

Rhagor o honiadau yn erbyn Clwb Criced Swydd Efrog

Mae’r cadeirydd Roger Hutton wedi camu o’r neilltu, gan annog nifer o swyddogion y clwb i’w ddilyn
Azeem Rafiq

Cadeirydd Clwb Criced Swydd Efrog wedi ymddiswyddo

Roger Hutton wedi cyhoeddi ei ymddiswyddiad yn sgil honiadau am “hiliaeth sefydliadol” yn y clwb
Azeem Rafiq

Cricedwr yn cyfaddef iddo ddefnyddio iaith hiliol

Gary Ballance, serch hynny, yn dweud ei fod e ac Azeem Rafiq ill dau wedi defnyddio iaith annerbyniol yn ystod eu cyfeillgarwch agos
Azeem Rafiq

Y cricedwr Azeem Rafiq i roi tystiolaeth am “hiliaeth endemig” Clwb Swydd Efrog gerbron pwyllgor seneddol

Cadeirydd Pwyllgor Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau, a Chwaraeon San Steffan yn mynnu bod aelodau Bwrdd Clwb Criced Swydd Efrog yn ymddiswyddo
Azeem Rafiq

Ffrae hiliaeth Swydd Efrog yn mynd gerbron pwyllgor seneddol

Bydd gan y clwb criced gwestiynau i’w hateb ynghylch ymchwiliad i honiadau gan y cyn-chwaraewr Azeem Rafiq
Azeem Rafiq

Dim camau disgyblu gan sir griced yn dilyn cydnabyddiaeth o hiliaeth

Mae Swydd Efrog yn derbyn bod Azeem Rafiq wedi cael ei “aflonyddu’n hiliol a’i fwlio”