Mae’r cricedwr Gary Ballance wedi cyfaddef iddo anelu iaith hiliol at ei gyd-chwaraewr Azeem Rafiq.
Fe fu’r ddau yn chwarae ochr yn ochr â’i gilydd ac yn ffrindiau agos yn ystod eu cyfnod gyda Chlwb Criced Swydd Efrog.
Cyhoeddodd Ballance ddatganiad hir ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 3) yn cyfaddef ei ran yn yr helynt.
Chwaraeodd e mewn 23 o gemau prawf ac 16 o gemau undydd rhyngwladol dros Loegr rhwng 2013 a 2017.
Yn ei ddatganiad, dywedodd Ballance ei fod e a Rafiq “wedi dweud pethau’n breifat nad oedden nhw’n dderbyniol”.
Y clwb
Mae Clwb Criced Swydd Efrog dan gryn bwysau gan wleidyddion a noddwyr i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
Daw hyn ar ôl iddyn nhw gyhoeddi adroddiad wedi’i olygu’n rhannol i ddileu enw Gary Ballance.
Dywedodd Ballance yn ei ddatganiad ei fod yn “derbyn” iddo ddefnyddio iaith hiliol a’i fod yn “difaru” gwneud hynny.
Ond dywedodd fod y “ffrindiau gorau wedi dweud pethau sarhaus” a fyddai “allan o’u cyd-destun yn cael eu hystyried yn gwbl amhriodol”.
Dywedodd nad oedd yn sylweddoli ei fod e wedi “sarhau” Azeem Rafiq ac y byddai “wedi stopio ar unwaith” pe bai’n deall hynny.
Daeth panel annibynnol i’r casgliad mai “tynnu coes mewn modd cyfeillgar” oedd Ballance wrth wneud y sylwadau, ond mae hynny wedi cael ei feirniadu gan wleidyddion ac ymgyrchwyr gwrth-hiliaeth, ac mae nifer o noddwyr Clwb Criced Swydd Efrog bellach wedi tynnu eu nawdd yn ôl, gan gynnwys Tetley’s a Yorkshire Tea.
Llofnododd Ballance gytundeb tair blynedd newydd yn ddiweddar, ac mae Clwb Criced Swydd Efrog yn dweud na fydd unrhyw unigolion yn wynebu camau disgyblu.
Mae disgwyl i Azeem Rafiq fynd gerbron pwyllgor seneddol ar Dachwedd 16, lle mae disgwyl iddo ddatgelu holl fanylion yr achos.
Mae nifer o wleidyddion wedi ysgrifennu at Fwrdd Criced Cymru a Lloegr yn galw am ymchwiliad brys i’r modd yr aeth y clwb ati i gynnal ymchwiliad.