Mae tîm pêl-droed Caerdydd heb fuddugoliaeth mewn deg gêm erbyn hyn, ar ôl colli o 1-0 yn erbyn QPR yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae’r Adar Gleision wedi colli naw o’r gemau hynny, ac maen nhw un pwynt yn unig uwchlaw safleoedd cwymp y Bencampwriaeth.

Sgoriodd Andre Gray unig gôl y gêm gyda’i drydedd gôl y tymor hwn, ac maen nhw wedi codi i’r pumed safle yn y tabl.

Daeth cyfle cynnar i dîm Steve Morison, y rheolwr dros dro, drwy Perry Ng wrth i’w ergyd oddi ar groesiad Ryan Giles fynd heibio’r postyn.

Daeth cyfleoedd hefyd i Rubin Colwill a Will Vaulks ond fe wnaethon nhw orfodi’r golwr i arbed eu hergydion.

Rhoddodd yr Adar Gleision ormod o le i Gray yn y cwrt cosbi wedyn, ac fe sgoriodd e oddi ar bàs Andre Dozzell.

Ymateb y rheolwr

“Fe gollon ni, does dim gwir ots am unrhyw beth arall,” meddai Steve Morison.

“Roedden ni’n teimlo ein bod ni’n rheoli’r gêm gyda’r bêl a hebddi yn yr hanner cyntaf, ac yna fe gawson ni un eiliad yn anghywir ac fe wnaethon nhw ein cosbi ni.

“Dyna lle’r ydyn ni ar hyn o bryd.

“Y gôl oedd yr eiliad dyngedfennol.

“Roedd hi’n bàs wych, yn orffeniad gwych, a chawson ni mo hynny wir.

“Alla i ddim gwisgo’r peth i fyny mewn unrhyw ffordd arall.

“Roedd angen eiliad o safon arnom ni a wnaethon ni ddim cymryd ein cyfle.

“Mae’n galondid fod y chwaraewyr yn gwneud yr hyn dw i’n ei ofyn iddyn nhw.

“Maen nhw’n symud y bêl yn dda, yn cymryd risgiau ac yn ddewr, ond ar y funud dydy hi ddim wir yn gweithio i ni.

“Rydyn ni ar ddechrau mis Tachwedd a dydy’r tabl ddim yn dweud celwydd.

“Rydyn ni â’n cefnau yn erbyn y wal, ond mae llawer o bwyntiau’n weddill i’w hennill.”