Fe fydd Ellis Jenkins yn chwarae dros Gymru yn erbyn De Affrica – gêm ryngwladol gynta’r blaenasgellwr ers tair blynedd.

Mae’n un o chwe newid yn nhîm y prif hyfforddwr Wayne Pivac, yn dilyn y grasfa o 54-16 yn erbyn Seland Newydd yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf.

Dydy Jenkins ddim wedi chwarae ers y gêm yn erbyn yr un gwrthwynebwyr yn 2018 pan gafodd e anaf i’w benglin.

Ymhlith y blaenwyr, bydd Rhys Carre yn dychwelyd i’r rheng flaen a Will Rowlands i’r ail reng.

Ymhlith yr olwyr, mae Dan Biggar wedi’i ddewis yn safle’r maswr, tra bod yr asgellwr Louis Rees-Zammit a’r canolwr Nick Tompkins hefyd wedi’u cynnwys.

Jonathan Davies fydd yn arwain y tîm yn absenoldeb Alun Wyn Jones, sydd allan am weddill yr hydref ag anaf i’w ysgwydd.

Does dim lle i Owen Lane, Gareth Anscombe na Johnny Williams yn y tîm.

Mae dau wyneb newydd ymhlith yr eilyddion, sef y bachwr Bradley Roberts a’r prop WillGriff John.

Mae Ross Moriarty allan ag anaf i’w ysgwydd, tra bod Wyn Jones yn gostwng i’r fainc.

Mae Liam Williams ar y fainc hefyd ar ôl cael tynnu ei bendics.

Tîm Cymru: Johnny McNicholl; Louis Rees-Zammit, Jonathan Davies (capten), Nick Tompkins, Josh Adams; Dan Biggar, Tomos Williams; Rhys Carre, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Adam Beard, Ellis Jenkins, Taine Basham, Aaron Wainwright.

Eilyddion: Bradley Roberts, Wyn Jones, WillGriff John, Ben Carter, Seb Davies, Gareth Davies, Gareth Anscombe, Liam Williams.