Bydd Dan Biggar a Louis Rees-Zammit yn dychwelyd i dîm rygbi Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn De’r Affrig.

Dyma ail gêm Cymru yng nghyfres yr Hydref eleni.

Mae disgwyl i Wayne Pivac gyhoeddi’r tîm llawn yfory (ddydd Iau) ond bydd aelodau o’r Llewod – Alun Wyn Jones a Ross Moriarty – yn absennol oherwydd anafiadau.

Mae’r ddau ar fin derbyn llawdriniaethau ar eu hysgwyddau yn dilyn y gêm dros y penwythnos ble maeddod y Crysau Duon Cymru 54-16.

Mae Cymru wedi ennill pob gêm gartref yn erbyn De’r Affrig ers 2013.

Cyhoeddodd De’r Affrig newidiadau i’r tîm dros Twitter ddoe.

Yn eu cyfrif Twitter, fe ddywedon nhw: “Ein newidiadau i gêm Springbok-23 i Gymru.

“Willemse, Kriel a Jantjies i ddechrau yng Nghaerdydd

“Gwyddom fod hyn yn mynd i fod yn gêm anodd”.

 

Alun Wyn Jones allan am “gyfnod o ychydig fisoedd” yn dilyn anaf

Bydd Ross Moriarty a Taulupe Faletau hefyd yn methu gweddill Cyfres yr Hydref, ac o bosib y Chwe Gwlad flwyddyn nesaf