Bydd chwaraewyr benywaidd yn cael cytundebau proffesiynol gan Undeb Rygbi Cymru am y tro cyntaf.

Fel rhan o fuddsoddiad mawr yn gêm y merched, mae’r undeb wedi cytuno i gynnig cytundebau 12 mis i tua 25 o’u chwaraewyr rhyngwladol.

Bydd 10 o’r cytundebau yn rhai proffesiynol, a 15 yn gytundebau cynnal a fydd yn talu llai.

Ynghyd â hynny, bydd chwaraewyr yn derbyn ffioedd hyfforddi a thâl am chwarae mewn gemau.

Mae’r cytundebau’n cael eu llunio ar y funud, a bydd gofyn i chwaraewyr gwrdd â gofynion a safon benodol.

Mae disgwyl i’r cytundebau gael eu cyflwyno ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Enfawr

Dywedodd Cyfarwyddwr Perfformiad Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker, ei fod “wrth ei fodd” yn gallu sefydlu’r cytundebau cyntaf i chwaraewyr benywaidd.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud rhaglen y merched yn un o’r rhai gorau yn y byd ac mae’r cyhoeddiad hwn yn gam cyntaf, ond yn gam enfawr, yn y cyfeiriad cywir,” meddai Nigel Walker.

“Mae’r chwaraewyr wedi chwarae rhan allweddol yn y broses hon hyd yn hyn ac rydyn ni’n teimlo mai dyma’r ffordd orau i wneud gwelliannau gwirioneddol ar lwyfan y byd yn y tymor byr a’r tymor hir.

“Bydd y chwaraewyr a’r hyfforddwyr nawr yn dechrau’r gwaith o baratoi ar gyfer tair gêm ryngwladol yr hydref gyffrous cyn i’r set gyntaf o gytundebau gael eu cynnig i’r chwaraewyr y mae’r hyfforddwyr yn teimlo sydd gan y mwyaf o botensial i fod mor gystadleuol â phosib yng Nghwpan y Byd flwyddyn nesaf.

“Dw i’n gadarnhaol am yr hyn y gellir ei gyflawni yn y deuddeg mis nesaf.”

Athletwyr

Dywedodd Siwan Lillicrap, capten tîm Cymru: “Fel chwaraewyr, rydyn ni’n teimlo mai hwn yw’r model gorau i ni ar y pwynt yma.

“Mae’n strwythur sy’n rhoi cyfle i ni baratoi at Gwpan y Byd mewn lle gwell.

“Bydd yn caniatáu i rai o’n chwaraewyr ymroi i fod yn athletwyr proffesiynol a chymryd cyfrifoldeb dros dasgau penodol ar ran y tîm hefyd.”

Ychwanegodd y prif hyfforddwr Ioan Cunningham eu bod nhw’n “credu’n gryf” y bydd y ffordd newydd hon o weithredu’n gwneud gwahaniaeth mawr i faint i gystadleuol y gall y tîm fod yng Nghwpan y Byd 2022.

“Byddwn ni’n gallu mynd o ddal i fyny gyda’r chwaraewyr mewn gwersylloedd hyfforddi ar benwythnosau ac un sesiwn ganol yr wythnos i hyfforddi hyd at bedair gwaith yr wythnos,” meddai.

“Byddwn ni’n gallu datblygu cynlluniau datblygu perfformiad personol i’r chwaraewyr a rheoli a gwneud y gorau o’u potensial.”

Uchelgeisiol

Mae disgwyl y bydd rhagor o staff yn cael eu cyflogi hefyd, gan gynnwys er mwyn cynnig cyngor ar ffordd o fwy a pherfformiad, a seicoleg

Yn ôl Nigel Walker, dydi hwn ond yn “un rhan o’r jigso wrth i ni edrych tuag at gael rhaglen fenywod ryngwladol o’r radd flaenaf”.

Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Steve Phillips, bod hwn yn “gam hynod gadarnhaol yn y cyfeiriad cywir i Fenywod Cymru, ynghyd â buddsoddiad sylweddol mewn staff a chyfleusterau”.

“Er nad yw cytundebau’n golygu y bydd sicrwydd o lwyddiant i gêm y menywod yng Nghymru yn syth, o bell ffordd, maen nhw, fodd bynnag, yn rhan allweddol o ymateb strategol Undeb Rygbi Cymru a byddwn ni’n parhau i wneud gwelliannau uchelgeisiol i godi’r safonau dros y bwrdd.”