Bydd y cricedwr Azeem Rafiq yn cael rhoi tystiolaeth am yr hiliaeth brofodd wrth chwarae i Glwb Criced Swydd Efrog gerbron pwyllgor Seneddol.

Fe wnaeth Azeem Rafiq siarad am ei brofiadau a’r “hiliaeth sefydliadol” yn y clwb am y tro cyntaf dros flwyddyn yn ôl, ond mae datblygiadau diweddar wedi tynnu sylw aelodau seneddol yn San Steffan.

Bydd cadeirydd y clwb, Roger Hutton, yn cael ei alw gerbron pwyllgor Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan ar 16 Tachwedd yn sgil y mater hefyd.

Fe wnaeth Ysgrifennydd Iechyd y Deyrnas Unedig, Sajid Javid, drydar neithiwr gan ddweud y dylai pobl gael eu dwyn i gyfrif yn y Clwb, ac fe wnaeth llefarydd ar ran Boris Johnson annog Bwrdd Criced Cymru a Lloegr i “ymchwilio i hyn yn fanwl ac yn brydlon” a “gweithredu lle bo angen”.

Datblygiadau

Daeth ymchwiliad annibynnol a gafodd ei gomisiynu gan Glwb Criced Swydd Efrog i’r canlyniad bod Azeem Rafiq wedi dioddef “bwlio ac aflonyddu hiliol” wrth chwarae i’r clwb.

Er eu bod nhw wedi cynnig ymddiheuriad, aeth y clwb yn eu blaenau i ddweud na fyddai unrhyw un o’u gweithwyr yn wynebu unrhyw gamau pellach.

Yr wythnos hon, fe wnaeth ESPNcricinfo gyhoeddi manylion honedig sydd yn yr adroddiad, gan gynnwys cyfaddefiad gan uwch-chwaraewr ei fod wedi defnyddio’r gair ‘P***’ dro ar ôl tro wrth gyfeirio at Azeem Rafiq, ond penderfynodd yr adroddiad bod hynny’n digwydd “mewn ysbryd sgwrs gyfeillgar”.

Wrth drydar, dywedodd Sajid Javid: “Dydi P*** ddim yn banter. Dylai pobl gael eu dwyn i gyfrif yng Nghlwb Criced Swydd Efrog. Os na fydd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn gweithredu yna dyw e ddim yn ffit i’w bwrpas.”

Bwrdd Criced Cymru a Lloegr sy’n rheoli’r gêm, ac maen nhw wedi derbyn copi o’r adroddiad yn ddiweddar, fel rhan o’u hymchwiliad “trylwyr a theg”.

Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street: “Mae’r rhain yn honiadau difrifol iawn sydd yn amlwg wedi cael effaith sylweddol ar Azeem Rafiq, ac mae’n bwysig eu bod nhw’n cael eu hymchwilio’n drwyadl a phrydlon.

“Rydyn ni’n eu hannog nhw i edrych ar hyn gan graffu’n fanwl a gweithredu lle bo angen. Ni ddylai iaith o’r fath gael ei defnyddio mewn unrhyw gyd-destun neu ffurf o gwbl.”

Wrth ateb a ellir defnyddio P*** fel “banter” unrhyw bryd, dywedodd y llefarydd: “Na, mae hyn yn iaith hiliol ac ni ddylai gael ei ddefnyddio mewn unrhyw gyd-destun o gwbl.”

Mewn datganiad, mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi ymddiheuro fod y mater heb ei ddatrys, ac fe wnaethon nhw gydnabod yr effaith ar les Azeem Rafiq a’i deulu.

“Byddwn ni’n lansio proses reoleiddio lawn sy’n deg i bawb, ond hefyd yn sicrhau bod hyn yn digwydd mor sydyn â phosib.

“Er mwyn gwneud hyn, rydyn ni wedi sicrhau gwasanaethau un o Gwnsleriaid y Frenhines, ynghyd â chefnogaeth ymchwiliol allanol er mwyn cynyddu adnoddau sy’n rhan o’r broses.”

“Hiliaeth endemig”

Mae cadeirydd Pwyllgor Materion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau, a Chwaraeon San Steffan, Julian Knight, wedi mynnu bod aelodau bwrdd Clwb Criced Swydd Efrog yn ymddiswyddo yn sgil “hiliaeth endemig” yn y clwb.

“O ystyried yr hiliaeth endemig yng Nghlwb Criced Swydd Efrog, dw i’n cael trafferth meddwl am unrhyw reswm pam ddylai’r bwrdd aros yn eu swyddi,” meddai Julian Knight.

“Dyma un o’r digwyddiadau mwyaf anghynnes ac annifyr yn hanes criced modern.”

Dywedodd Nadine Dorries, yr Ysgrifennydd Gwladol dros faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, bod y driniaeth dderbyniodd Azeem Rafiq wedi’r hiliaeth yn “afiach”, a bod yr ymchwiliad ddigwyddodd wedyn wedi gwneud pethau’n waeth.

“Rhaid i ymchwiliad Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ddigwydd yn sydyn, a bod yn gwbl dryloyw. Rhaid mynd i’r afael â hiliaeth, a BYTH ei ddiystyru fel ‘banter’ yn unig.”

Mae PA wedi cysylltu â Chlwb Criced Swydd Efrog, ac fe wnaeth Azeem Rafiq drydar ei ymateb neithiwr.

“Dros yr 14 mis diwethaf dw i wedi dweud wrth Fwrdd Criced Cymru a Lloegr a Chymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol bod angen i rywun ddangos arweinyddiaeth a chymryd hyn allan o ddwylo Clwb Criced Swydd Efrog,” meddai Azeem Rafiq.

“Doedd neb yn fy nghredu, ni wnaeth neb wrando, fe wnaeth pawb drio amddiffyn eu hunain a gadael i mi frwydro ar fy mhen fy hun. AMSER AM Y GWIR I GYD.”

Dywedodd Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol wrth PA eu bod nhw’n parhau i drafod y “mater hynod bwysig hwn” gyda rhanddeiliaid, a’u bod nhw’n cefnogi proses reoleiddio Bwrdd Criced Cymru a Lloegr nawr eu bod nhw wedi derbyn yr adroddiad yn llawn.