Mae Clwb Criced Swydd Efrog yn dweud na fydd unrhyw unigolion yn y clwb yn wynebu camau disgyblu er eu bod nhw’n cydnabod fod cyn-chwaraewr o dras Asiaidd wedi cael ei “aflonyddu’n hiliol a’i fwlio”.

Daw hyn yn dilyn adroddiad annibynnol i gwynion gan Azeem Rafiq.

Cyhoeddodd y clwb fersiwn ddiwygiedig o’r adroddiad ar Fedi 10, gan ymddiheuro a derbyn fod yna aflonyddu hiliol a bwlio wedi digwydd yn ystod dau gyfnod Rafiq gyda’r sir rhwng 2008 a 2018.

Ond maen nhw’n dweud heddiw (dydd Iau, Hydref 28) fod eu hymchwiliad mewnol wedi dod i’r casgliad nad oes angen cymryd camau disgyblu yn erbyn unrhyw gyflogai, chwaraewr na swyddog gweithredol.

Roedd Rafiq wedi cyhuddo’r clwb o warchod unigolion, gan ddweud bod ymddygiad y clwb yn destun “embaras” a’i fod yn “dal i aros am yr adroddiad llawn”.

Mae’n cyhuddo’r clwb o “warchod” unigolion oedd “wedi rhoi’r golau gwyrdd i hiliaeth”.

Ymateb Clwb Criced Swydd Efrog

Er gwaetha’r diffyg camau disgyblu, mae’r clwb yn dweud nad yw hynny’n “lleihau pwysigrwydd y casgliadau” na chwaith fod yna “lawer y gall y clwb ei ddysgu o’r adroddiad”.

Maen nhw wedi cydnabod rôl Rafiq wrth adrodd am yr achosion dan sylw wnaeth arwain at yr ymchwiliad sy’n “rhan o daith barhaus y clwb”.

Mae’r clwb yn dweud y dylen nhw a phawb sy’n gysylltiedig â’r clwb “ymfalchïo” yn eu gwaith ym maes amrywiaeth a chynhwysiant, ond fod “llawer i’w wneud eto”.

Ymateb Bwrdd Criced Cymru a Lloegr

Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi ymateb i’r adroddiad, gan ddweud eu bod nhw wedi derbyn copi.

Yn ogystal, maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi cael “sicrwydd” gan Glwb Criced Swydd Efrog y byddan nhw’n “cydymffurfio’n llawn â’r broses reoleiddio barhaus”.

“Mae hwn yn fater sydd â nifer o honiadau difrifol wrth ei galon, ac fe fydd tîm rheoleiddio’r ECB nawr yn ystyried yr adroddiad fel rhan o’i ymchwiliad,” meddai llefarydd.

“Rydym yn disgwyl y bydd yn cymryd amser i’r broses reoleiddio gyrraedd ei therfyn, ond mae’n hanfodol fod hon yn cael ei chwblhau’n drylwyr ac â thegwch i bawb sy’n rhan ohoni.”

Ymateb Azeem Rafiq

Mae Azeem Rafiq wedi ymateb yn chwyrn i’r cyhoeddiad.

“Daliwch sownd am funud bach fan hyn,” meddai wrth annerch y clwb ar Twitter.

“Felly rydych chi’n derbyn fy mod i wedi dioddef aflonyddu hiliol a bwlio ond does neb yn haeddu camau disgyblu?

“Weithiau, rydych chi jyst eisiau sgrechian!!!!

“@ECB_Cricket Dewch o ’na nawr!!! Sortiwch hyn cyn i fi wneud!!”