Bydd Gareth Anscombe yn ymddangos yn nhîm Cymru am y tro cyntaf ers dros ddwy flynedd wrth iddo chwarae yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn (Hydref 30).
Cafodd maswr y Gweilch, a gafodd ei eni yn Seland Newydd ac sy’n gymwys i chwarae i Gymru yn sgil ei fam, anaf difrifol i’w ben-glin mewn gêm yn erbyn Lloegr ym mis Awst 2019.
Dychwelodd Anscombe, sydd wedi ennill 27 o gapiau, i chwarae â’r Gweilch fis diwethaf ac mae wedi dechrau tair gêm i’r Gweilch yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig eleni.
Bydd Tomos Williams yn bartner iddo yn safle’r mewnwr.
Dydy Josh Navidi, Justin Tipuric, George North, Dan Lydiate, James Botham na Leigh Halfpenny ddim ar gael oherwydd anafiadau.
Mae Ellis Jenkins a Liam Williams yn annhebygol o fod yn holliach i herio Seland Newydd, tra bod Willis Halaholo wedi’i heintio â Covid-19.
Does dim modd i Dan Biggar, Callum Sheedy, Louis Rees-Zammit, Taulupe Faletau, Nick Tompkins, Thomas Young a Christ Tshiunza chwarae yn erbyn Seland Newydd gan eu bod yn chwarae i glybiau Seisnig, ac mae’r gêm yn cael ei chynnal y tu allan i ffenestr ryngwladol Rygbi’r Byd.
Mae Taine Basham yn dechrau ei gêm gyntaf i Gymru ynghyd â Ross Moriarty ac Aaron Wainwright yn y rheng ôl.
Mae cefnwr y Scarlets, Liam Williams yn colli allan wrth iddo barhau i wella o lawdriniaeth i dynnu pendics.
Dydy Ken Owens ddim ar gael chwaith yn dilyn anaf, felly bydd Ryan Elias yn dechrau, a Kirby Myhill fydd ar y fainc.
Mae blaenasgellwr Caerdydd, Ellis Jenkins, hefyd yn absennol ar ôl anafu asen yn gynharach yn y mis.
Y Capten Alun Wyn Jones fydd yn arwain Cymru wrth iddyn nhw chwarae o flaen torf gartref am y tro cyntaf ers Chwefror 2020 oherwydd pandemig Covid-19.
Bydd Jones, 36, yn chwarae gêm rhif 149 dros Gymru, gan basio record flaenorol Richie McCaw o Seland Newydd ar gyfer un wlad.
Ar y fainc, yn y cyfamser, mae Rhys Priestland yn ôl yn y garfan wedi absenoldeb o bedair blynedd.
Dyw Cymru heb guro’r Crysau Duon ers 1953, gan golli 31 gêm yn olynol, gydag 16 o’r rheiny yng Nghaerdydd.
‘Adeiladu tuag at Cwpan y Byd’
“Mae’r chwaraewyr yn gyffrous iawn, ond maen nhw’n gwybod fod tasg fawr wrth law,” meddai Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru.
“Y realiti yw ein bod ddwy flynedd i ffwrdd o Gwpan Rygbi’r Byd, ac rydym yn adeiladu tuag at hynny.
“Mae gennym Chwe Gwlad rownd y gornel i’w hamddiffyn, a byddwn yn ceisio ennill y twrnament hwnnw eto.
“Mae pob chwaraewr ifanc o Gymru eisiau chwarae yn y Principality o flaen 75,000, ac os ydych chi’n gofyn iddyn nhw pwy maen nhw eisiau chwarae yn eu herbyn, Seland Newydd fyddai un o’r ddau dîm y bydden nhw’n eu dewis.
“Mae’n mynd i fod yn brofiad gwych i’r chwaraewyr hynny sydd heb chwarae llawer o brofion rygbi, a byddan nhw’n sicr yn gwybod eu bod wedi bod mewn gêm wedyn.”