Mae trefnydd yr hediad a laddodd y pêl-droediwr Emiliano Sala wedi cael ei ganfod yn euog o beryglu diogelwch yr awyren.

Bu farw Sala a pheilot yr awyren, David Ibbotson, ar ôl i’r awyren oedd yn eu cludo o Ffrainc blymio i mewn i’r Sianel ger Guernsey ar Ionawr 29, 2019.

Roedd y pêl-droediwr newydd symud i Glwb Pêl-droed Caerdydd o glwb Nantes yn Ligue 1, ond bu farw cyn cyrraedd y brifddinas.

Cafodd David Henderson, sy’n 67 oed ac yn dod o Swydd Efrog, ei gyhuddo gerbron Llys y Goron Caerdydd heddiw (dydd Iau, Hydref 28).

Rheithgor

Roedd y mwyafrif ar y rheithgor (10 allan o 12) o’r farn fod Henderson yn euog am ei ran wrth drefnu’r daith gyda’r asiant pêl-droed Willie McKay.

Roedd o wedi gofyn i Ibbotson hedfan yr awyren tra ei fod o ar wyliau efo’i deulu ym Mharis.

Doedd gan Ibbotson, a oedd yn beilot i Henderson yn gyson, ddim trwydded i beilota hediadau masnachol, cymhwyster i yrru yn y nos, ac roedd ei hawl i hedfan awyrennau Piper Malibu wedi dod i ben.

Fe glywodd y rheithgor fod Henderson wedi tecstio nifer o bobol ar ôl i’r awyren ddiflannu yn eu rhybuddio i gadw’n ddistaw.

Mewn ymateb i hynny, dywedodd cyn-swyddog yr Awyrlu ei fod yn poeni y byddai ymchwiliad i’w weithredoedd.

Diwylliant o dorri rheolau

Roedd yr erlynydd Martin Goudie yn dweud bod Henderson un ai wedi bod yn “anystyriol neu’n esgeulus” yn y ffordd roedd yn gweithredu’r hediad, gan roi ei fusnes uwchlaw diogelwch y teithwyr.

Ychwanegodd Goudie fod Henderson wedi creu diwylliant o dorri rheolau hedfan ymhlith y peilotiaid yr oedd yn eu cyflogi.

Roedd perchennog yr awyren Piper Malibu, Fay Keely, wedi dweud wrth Henderson i beidio gadael Ibbotson i’w hedfan, oherwydd iddo dorri rheolau gofod awyr yn y gorffennol.

Fe wnaeth Henderson anwybyddu’r galwadau hynny, gan yrru neges i’r peilot yn dweud bod gan y ddau ohonyn nhw’r “cyfle i wneud arian” os nad oedden nhw’n “cynhyrfu cleientiaid na thynnu sylw’r Awdurdod Hedfan Sifil”.

Wrth ddod â’r sylwadau i ben, dywedodd Martin Goudie fod Henderson yn arwain “sefydliad anghymwys, heb ei chofnodi ac anonest”.

Roedd David Henderson eisoes wedi pledio’n euog i geisio cludo teithiwr heb ganiatâd nac awdurdod.

Bydd yn cael ei ddedfrydu am y ddau gyhuddiad ar Dachwedd 12.

‘Cwestiynau i’w hateb o hyd’

Mae teulu Emiliano Sala wedi croesawu’r newyddion, ond maen nhw’n dweud bod cwestiynau i’w hateb o hyd a’u bod yn gobeithio y bydd hediadau tebyg yn cael eu hatal yn y dyfodol.

“Un darn o’r pos yn unig yw gweithredoedd David Henderson o ran sut y daeth yr awyren roedd David Ibbotson yn ei hedfan yn anghyfreithlon i blymio i’r môr ar Ionawr 21, 2019,” meddai llefarydd ar ran y teulu.

“Dydyn ni ddim yn gwybod o hyd y wybodaeth allweddol ynghylch hanes cynnal a chadw’r awyren a’r holl ffactorau y tu ôl i’r gwenwyn carbon monocsid a gafodd ei ddatgelu fis Awst 2019 gan AAIB [ymchwilwyr damweiniau awyr].

“Dim ond yng nghwest Emiliano y mae modd canfod yr atebion i’r cwestiynau hyn, ac mae disgwyl i hwnnw ddechrau fis Chwefror y flwyddyn nesaf.

“Mae’r teulu Sala yn gobeithio’n fawr y bydd pawb sydd ynghlwm wrth y cwest yn datgelu deunydd yn llawn heb ragor o oedi, gan gynnwys Piper Aircraft Inc a’r AAIB.

“Dylai hyn sicrhau bod y cwest yn gallu ateb ei rôl o archwilio’r dystiolaeth yn llawn ac heb ofn fel bod yr holl ffeithiau’n dod i’r fei.

“Dim ond pe bai hynny’n digwydd y bydd teulu Emiliano, o’r diwedd, yn gwybod y gwirionedd am y drasiedi hon, gan alluogi’r holl wersi i gael eu dysgu fel nad yw’r un teulu arall yn godde’r fath farwolaeth y gellid fod wedi’i hosgoi.”