Mae Roberto Martinez, cyn-reolwr tîm pêl-droed Abertawe, ymhlith y rheolwyr sydd yn cael eu cysylltu â swydd rheolwr Barcelona.
Daw hyn ar ôl i Ronald Koeman, 58, gael ei ddiswyddo 15 mis ar ôl iddo gael ei benodi, yn dilyn y ddwy golled yn erbyn Real Madrid a Rayo Vallecano.
Mae’r clwb wedi diolch iddo am ei waith a’i wasanaeth i’r clwb.
Xavi Hernandez yw’r ffefryn i’w olynu, ond Martinez yw’r ail ffefryn ar hyn o bryd, ynghyd ag Andrea Pirlo ac Antonio Conte.
Mae Martinez wedi codi Gwlad Belg i frig rhestr detholion byd FIFA ar ôl pum mlynedd wrth y llyw.
Cyrhaeddodd y tîm rownd wyth olaf Ewro 2016 cyn i Gymru eu curo o 3-1 i gyrraedd y rownd gyn-derfynol yn ystod haf euraid yn Ffrainc.
Mae Martinez, cyn-chwaraewr Abertawe a ddaeth yn rheolwr rhwng 2007 a 2009, yn cael ei gydnabod am ddod â dull deniadol o’r cyfandir i dde Cymru wrth i’r clwb ennill yr Adran Gyntaf, camp oedd wedi arwain at wobr Rheolwr y Flwyddyn iddo.