Mae cefnogwyr rygbi yn cael eu hannog i wisgo gorchudd wyneb wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus dros y penwythnos.

Ond mae Trafnidiaeth Cymru yn rhybuddio na fydd cadw pellter cymdeithasol yn bosibl ar wasanaethau ar ddiwrnod gemau rhyngwladol yr hydref.

Maen nhw’n annog cwsmeriaid i ystyried hyn cyn penderfynu teithio.

Mae disgwyl torf o 74,500 yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn (Hydref 30) ar gyfer gêm agoriadol Cymru yn erbyn Seland Newydd, gyda’r holl docynnau ar gyfer y gêm wedi eu gwerthu.

Gofyniad cyfreithiol

Mae Trafnidiaeth Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn pwysleisio y dylai pobol barhau i ddilyn rheolau Covid-19 Llywodraeth Cymru.

“Bydd ein staff rheoli torf a diogelwch yn gweithio’n agos gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar ddiwrnod y gêm i atgoffa cefnogwyr rygbi ei fod yn dal yn ofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus,” meddai Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd Trafnidiaeth Cymru.

“Gall unrhyw un sy’n gwrthod gwisgo gorchudd wyneb heb reswm dilys gael ei atal rhag teithio neu gellir gofyn iddyn nhw adael y gwasanaeth.

“Rydyn ni eisiau i bob teithiwr gael taith ddiogel a hwylus yn ôl ac ymlaen i’r gêm.

“Rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad â chlybiau rygbi i helpu i drosglwyddo’r neges y dylai gorchuddion wyneb fod yn rhan hanfodol o git pob cefnogwr rygbi’r hydref hwn.”

Mae Heddlu Trafnidiaeth Cymru yn dweud eu bod yn gweithio’n agos gyda threfnwyr y gemau i sicrhau bod pobol yn dilyn y rheolau eleni.

“Bydd gennym fwy o bresenoldeb mewn lleoliadau allweddol, a bydd swyddogion yn atgoffa teithwyr o’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, oni bai eu bod wedi’i heithrio,” meddai Richard Powell.

“Yn yr un modd â phob digwyddiad mawr, mae’n bwysig iawn i bawb sy’n defnyddio’r rheilffordd gadw’n effro, bod yn wyliadwrus, ac adrodd am unrhyw weithgaredd amheus wrth staff yr orsaf, swyddog Trafnidiaeth Cyru, neu anfon neges destun at 61016 gyda rhywfaint o fanylion.”

Teithio

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg amserlen lawn gyda chapasiti ychwanegol ar y trenau prysuraf, a bydd yr holl gerbydau sydd ar gael mewn gwasanaeth.

Ar gyfer teithwyr syn teithio o orllewin neu ddwyrain Cymru ar hyd y brif reilffordd, mae Trafnidiaeth Cymru yn eu hannog nhw i ddefnyddio gwasanaethau rhyng-ddinas sydd â mwy o gapasiti.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog pobol sy’n teithio pellteroedd byrrach i gerdded, beicio neu ddefnyddio gwasanaethau bysiau lleol.