Mae’r newyddiadurwr Andy Bell, sy’n byw yn Awstralia, yn dweud mai “diddorol fydd gweld ymateb y cefnogwyr” ar ôl i bêl-droediwr yn y wlad gyhoeddi ei fod yn hoyw.
Mae lle i gredu mai Josh Cavallo yw’r unig bêl-droediwr hoyw ym mhrif adrannau’r byd ar hyn o bryd i fod yn agored am ei rywioldeb.
Wrth ddatgan cyn dechrau tymor yr A-League ei fod yn hoyw, dywedodd chwaraewr canol cae 21 oed Adelaide United ei fod e am i bobol weld fod “croeso i bawb yn y byd pêl-droed”.
Mae ei sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol wedi denu clod gan nifer o’i gyd-chwaraewyr ar draws y byd yn ogystal â sawl un o glybiau mawr y byd.
Dywedodd ei fod e wedi dysgu “cuddio teimladau” er mwyn teimlo ei fod e’n perthyn yn y gymuned bêl-droed a bod pêl-droed a bod yn hoyw “yn ddau fyd gwahanol oedd heb groesi o’r blaen”.
Ond mae’n cydnabod y gallai ei gyhoeddiad gael “effaith negyddol” ar ei yrfa a bod nifer o chwaraewyr hoyw eraill “yn byw mewn tawelwch”.
Mae Adelaide United yn dweud ei fod e’n “ddewr dros ben” a’u bod nhw’n ei gefnogi, ac mae’r A-League wedi ei longyfarch ar “greu gofod diogel a chynhwysol” yn y byd pêl-droed.
Llond llaw yn unig o bêl-droedwyr sydd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n hoyw – Justin Fashanu, Thomas Berling, Olivier Rouyer, Anton Hysén, David Testo, Robbie Rogers, Thomas Hitzlsperger, Liam Davis, Phuti Lekoloane, Collin Martin, Matt Pacifici, Andy Brennan, Thomas Beattie a Josh Cavallo.
Prinder sêr hoyw yn y byd chwaraeon
“Mae’r ymateb wedi bod yn enfawr fan hyn ac wrth gwrs, mae’r ymateb wedi ymestyn ar draws y byd,” meddai Andy Bell wrth raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru.
“Mae Juventus wedi cefnogi fe, Bayern Munich wedi cefnogi fe.
“Mae Josh yn ddyn ifanc ac mae rhai yn dweud ei fod e’n ddewr ond mae rhai eraill yn dweud na, dyw e ddim yn ddewr o gwbl, mae’n onest.
“Diddorol fydd gweld ymateb y cefnogwyr gan ein bod yn gwybod, fe all cefnogwyr pêl-droed fod yn gas ar adegau ond rwy’n credu fe fydd yna ymateb eitha’ positif.”
Yn ehangach, meddai, prin yw’r sêr chwaraeon yn Awstralia sydd wedi datgan yn gyhoeddus eu bod nhw’n hoyw.
“Mae’n werth nodi, mae dros ugain mlynedd ers i’r chwaraewr rygbi 13 ddod ma’s, Ian Roberts,” meddai.
“Ers 1995, does dim un arall wedi dod ma’s a chyn belled â bod campau eraill yn y cwestiwn yma yn Awstralia, dim ond nofwyr a phobol felly sydd wedi dod ma’s – Ian Thorpe, Matt Mitcham a Dan Kowalski.
“Ond o ran y dynion, mae yna brinder. Ond a ydy Josh am wneud rhyw fath o farc drwy ddenu pobol i deimlo’n ddigon hyderus ac yn ddigon gonest i ddweud y gwir amdanyn nhw?”