Mae Quinton De Kock, cricedwr yn nhîm cenedlaethol De Affrica wedi ymddiheuro am dynnu’n ôl o gêm ugain pelawd yng Nghwpan y Byd yn dilyn ffrae am wrthod penlinio yn erbyn hiliaeth.

Tynnodd y wicedwr yn ôl o’r gêm yn erbyn India’r Gorllewin funudau cyn dechrau’r gêm, a’r awgrym oedd fod De Affrica wedi mynnu bod rhaid i’r chwaraewyr wneud y weithred.

Daw’r ymddiheuriad mewn datganiad hir gan De Kock ddeuddydd wedi’r helynt, ac mae’n awgrymu y byddai’n barod i benlinio yn y dyfodol.

“Hoffwn ddechrau drwy ddweud ‘sori’ wrth fy nghyd-chwaraewyr a’r cefnogwyr gartref,” meddai.

“Doeddwn i byth eisiau gwneud hyn yn fater ynghylch Quinton.

“Dw i’n deall pwysigrwydd sefyll yn erbyn hiliaeth a dw i hefyd yn deall ein cyfrifoldeb ni fel chwaraewyr i osod esiampl.

“Os yw penlinio o’m rhan i yn helpu i addysgu eraill, ac yn gwneud bywydau pobol eraill yn well, dw i’n fwy na pharod i wneud hynny.”

Wrth egluro’i benderfyniad ymhellach, gan ddweud bod materion ynghylch hiliaeth yn agos at ei galon gan nad oes gan rai aelodau o’i deulu groen gwyn, dywed ei fod e wedi colli ei “hawliau” o ganlyniad i gyfrarwyddyd Criced De Affrica ac nad oedd e wedi cael gwybod am y cyfarwyddyd tan fore’r gêm.

“Mae’n wir ddrwg gen i am y loes, y dryswch a’r dicter dw i wedi ei achosi,” meddai wedyn.

“I’r sawl nad ydyn nhw’n gwybod, dw i’n dod o deulu hil-gymysg.

“I fi, mae bywydau du o bwys ers i fi gael fy ngeni. Nid dim ond am fod yna fudiad rhyngwladol.

“Mae hawliau a chydraddoldeb pawb yn bwysicach nag unrhyw unigolyn.

“Ces i fy magu i ddeall fod gennym oll hawliau, a’u bod nhw’n bwysig.

“Roeddwn i’n teimlo bod fy hawliau wedi cael eu tynnu oddi arnaf pan ges i wybod fod rhaid i ni ei wneud yn y ffordd y dywedwyd wrthym.

“Ers ein sgwrs gyda’r bwrdd neithiwr, oedd yn emosiynol iawn, dw i’n credu bod gennym oll well dealltwriaeth o’u bwriadau hefyd.

“Dw i’n difaru na ddigwyddodd hyn ynghynt, oherwydd gellid fod wedi osgoi’r hyn ddigwyddodd ar ddiwrnod y gêm.

“Pe bawn i’n hiliol, gallwn yn hawdd iawn fod wedi penlinio a dweud celwydd, sy’n anghywir ac sydd ddim yn adeiladu cymdeithas well.

“Mae’r sawl sydd wedi’u magu gyda fi ac sydd wedi chwarae gyda fi’n gwybod pa fath o berson ydw i.

“Dw i wedi cael fy ngalw’n bethau lu fel cricedwr ond wnaeth y rheiny ddim achosi loes. Mae cael fy ngalw’n hiliol oherwydd camddealltwriaeth yn peri loes ddifrifol i fi.

“Mae’n peri loes i’m teulu. Mae’n peri loes i’m gwraig sy’n feichiog.

“Dw i ddim yn hiliol. Yn fy nghalon, dw i’n gwybod hynny.

“A dw i’n meddwl bod y sawl sy’n fy adnabod i’n gwybod hynny.”

Cefndir

Mae’n ymddangos bod De Kock wedi tynnu’n ôl o gêm yng nghystadleuaeth ugain pelawd Cwpan y Byd yn dilyn cyfarwyddyd gan awdurdodau criced y wlad fod rhaid i’r chwaraewyr benlinio cyn gemau.

Ers tro, fe fu penlinio yn arwydd o gefnogaeth y byd chwaraeon i’r ymgyrch yn erbyn hiliaeth yn dilyn marwolaeth George Floyd dan law’r heddlu yn yr Unol Daleithiau.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae timau a chwaraewyr unigol yn penderfynu cefnogi neu wrthod y weithred, neu’n dangos eu cefnogaeth mewn ffyrdd eraill.

Daeth penderfyniad y wicedwr Quinton de Kock i beidio â chwarae yn y gêm yn erbyn India’r Gorllewin “am resymau personol” oriau’n unig ar ôl y cyfarwyddyd gan Griced De Affrica fod rhaid “gwneud safiad unedig a chyson yn erbyn hiliaeth”.

Mae De Kock wedi gwrthod penlinio yn y gorffennol, ac fe ddaeth y cyhoeddiad na fyddai’n chwarae yn y gêm adeg cyhoeddi’r tîm funudau cyn iddi ddechrau.

Dywed Criced De Affrica fod disgwyl i’r chwaraewyr barhau i ddilyn eu cyfarwyddyd am weddill Cwpan y Byd.

Enillodd De Affrica y gêm o wyth wiced.

Ffrae ynghylch penlinio yn erbyn hiliaeth

Quinton de Kock, cricedwr De Affrica, wedi tynnu’n ôl o gêm yng Nghwpan y Byd, yn dilyn cyfarwyddyd gan y bwrdd criced cenedlaethol

Cyngor Tref Dinbych yn penderfynu cadw cerflun dadleuol o HM Stanley

Daw’r penderfyniad yn sgil pleidlais gyhoeddus yn dilyn ymgynghoriad