Mae Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi ymweld â’r Cae Ras am y tro cyntaf ers prynu clwb pêl-droed Wrecsam.

Fe brynodd y ddau seren Hollywodd Wrecsam ym mis Chwefror gan gymryd rheolaeth o 100% o’r clwb gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam.

Fe wnaeth Ryan Reynolds ac Rob McElhenney fuddsoddiad o £2m yn y clwb o dan delerau’r cytundeb.

Roedd y perchnogion hefyd yn y dorf wrth i Wrecsam golli o 3-2 oddi cartref ym Maidenhead yn y Gynghrair Genedlaethol neithiwr (nos Fawrth, 26 Hydref).

Llwyddodd y Cochion i daro’n ôl ar ôl bod ar ei hôl hi o 2-0 yn gynnar yn y gêm, ond daeth gôl fuddugol y tîm cartref gan Josh Kelly chwarter awr cyn y chwiban olaf.

Siomedig

Roedd Wrecsam i lawr i ddeg dyn erbyn hynny wrth i Bryce Hosannah weld cerdyn coch am dacl flêr ar Jay Mingi.

Daeth gôl gyntaf Maidenhead ar ôl 19 munud wrth i Kane Ferdinand benio’r bêl i’r rhwyd ger y postyn agosaf.

Dyblodd Mingi fantais ei dîm funudau’n ddiweddarach.

Gydag un dyn yn llai ar y cae, daeth gôl gyntaf Wrecsam toc cyn yr egwyl, wrth i Paul Mullin sgorio’i seithfed gôl y tymor hwn.

Roedden nhw’n gyfartal ar ôl 56 munud wrth i Jordan Davies rwydo.

Ond aeth y bêl i gornel isa’r rhwyd oddi ar droed Kelly i gipio’r triphwynt i anfon y perchnogion adre’n siomedig ar eu hymweliad cyntaf i weld eu tîm yn chwarae.

Mae cryn ymateb wedi bod wrth i’r perchnogion ymweld â’r Cae Ras am y tro cyntaf.

“Wel mae ein tref yn sicr yn llawn bwrlwm heddiw,” meddai un cefnogwr.

“Dw i’n gwybod bod perchnogion clybiau pêl-droed yn cael enw drwg ar hyn o bryd ond dwi wir yn credu bod Wrecsam wedi taro’r jacpot gyda’r ddau yma,” meddai un arall.

Dywedodd un cefnogwr nad oedd hi’n “gallu credu bod y gwŷr yma yn Wrecsam”.

“Mae’n swreal,” meddai.

“Croeso i Gymru a Chlwb pêl-droed mawreddog Wrecsam,” meddai cefnogwr arall mewn neges i’r perchnogion.