Mae clwb pêl-droed Dinas Bangor wedi terfynu cytundeb eu prif hyfforddwr Hugo Colace.

Penodwyd Hugo Colace ym mis Mehefin 2020, gan gymryd yr awenau gan enillydd Cwpan y Byd yr Ariannin, Pedro Pasculli, gyda’r nod o arwain y clwb yn ôl i frig pêl-droed Cymru.

Fe wnaeth Colace, 37, fwynhau gyrfa lwyddiannus yn chwarae yn yr Ariannin, Brasil, yr Eidal a’r DU, gan wneud dros 100 ymddangosiad i Barnsley.

Ar ôl dechrau gwael i dymor 2021-22, mae Bangor yn y 9fed safle yng Ngogledd Cymru, gyda 15 pwynt o 12 gêm, 18 pwynt y tu ôl i arweinwyr y gynghrair Airbus.

Ynghyd ag anghydfod oddi ar y cae ac ansicrwydd ynglŷn â dyfodol y clwb, yr wythnos diwethaf cyhoeddwyd bod y clwb wedi cael ei alw i wrandawiad disgyblu dros gyflogau chwaraewyr a swyddogion y tîm nad oedd yn cael eu talu.

Ymchwiliad

Dywedodd datganiad gan y clwb, a ryddhawyd am 1.35yb ddydd Mercher 27 Hydref: “Mae Bangor wedi penderfynu terfynu cytundeb y prif hyfforddwr Hugo Colace yn dilyn ymchwiliad mewnol gan y clwb.

“Mae ymddygiad Mr Colace wedi gostwng yn is na’r safonau y byddai’r clwb wedi’u disgwyl drwy fethu â rhoi’r clwb yn gyntaf ac mae ei weithgareddau gyda thrydydd partïon wedi’u datgelu.

“Daw hyn ynghyd â pherfformiadau’r tîm sydd ddim wedi cyrraedd y safonau gofynnol a record disgyblu sy’n peri pryder.”

Newydd

Y gred yw mai prif hyfforddwr newydd Bangor yw Mathurin Olivier Ovambe, er nad yw’r clwb wedi rhyddhau datganiad yn cadarnhau hyn.

Fodd bynnag, cafodd Ovambe ei restru fel ‘rheolwr tîm’ ar daflen gêm swyddogol dydd Sadwrn ar gyfer y gêm yng Nghonwy ac mae wedi ymddangos mewn fideos o sesiynau hyfforddi’r clwb.

Mae Ovambe wedi disgrifio’i hun fel prif hyfforddwr Bangor ar y cyfryngau cymdeithasol.