Cafodd pum marwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19 eu cofnodi yn yr 24 awr hyd at 9yb ddydd Mawrth (26 Hydref) yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

O ganlyniad, mae cyfanswm marwolaethau Cymru bellach yn 6,122.

Cadarnhawyd 2,582 o achosion newydd o’r feirws hefyd, gan ddod â’r cyfanswm ers dechrau’r pandemig i 429,731.

Disgyn

Fodd bynnag, mae’r gyfradd heintio am bob 100,000 o bobl dros gyfnod o saith diwrnod bellach wedi disgyn o 719.9 i 699.7.

Mae’r gyfradd heintio ar ei uchaf ym Mlaenau Gwent (1,156.6), gyda Thorfaen (1,024.9) a Chaerffili (976.4) yn ail a thrydydd.

Ynys Môn sydd â’r gyfradd isaf (371.2), gyda Wrecsam (378.1) yn ail a Sir Fflint (395.9) yn drydydd.