Mae economegydd yn bryderus y bydd y lefel chwyddiant yn debygol o effeithio ar allu Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i wario arian.

Roedd Dr Edward Jones, darlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor, yn rhannu ei ymateb cyntaf i’r Gyllideb.

Fe wnaeth y Canghellor Rishi Sunak gyhoeddi ei gynlluniau yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (27 Hydref), gan addo “economi gryfach y dyfodol” mewn “oes o optimistiaeth” i adfer y sefyllfa yn sgil y pandemig Covid-19.

Ymysg y cyhoeddiadau ariannol, cyhoeddodd Sunak £2.5 biliwn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru, yn ogystal â chyllid o £110 miliwn i Gymru o’r Gronfa Lefelu i Fyny.

Roedd y Canghellor hefyd wedi cyhoeddi y bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn codi ym mis Ebrill 2022 – o £8.91 yr awr i £9.50 ar gyfer pobol dros 23 oed.

Dadwneud

Dywedodd Dr Jones: “Dw i’n teimlo fod ’na dipyn o wario yn y Gyllideb yma,” meddai wrth golwg360.

“I fod yn onest, y teimlad ydy bod o ond yn dadwneud y cyni oedd yna o dan David Cameron a George Osborne.

“Yn amlwg, mae’r Canghellor eisiau economi ‘High scale, high wages’, ond yr her mae o’n ei wynebu ar hyn o bryd ydi bod yna chwyddiant.

“Mae’r cyhoeddiad yn risg mawr i’r Canghellor. Mae o wedi gaddo gwario lot fawr o arian yn y dyfodol, ond mae ’na gwestiynau mawr o gwmpas hynny.

“Os ydi chwyddiant yn aros o gwmpas, mi fydd hynny’n cael effaith negyddol ar yr economi, ac felly dydy hi ddim yn sicr fydd gan y Canghellor yr arian yna i wario yn y dyfodol.”

Chwyddiant

Esboniodd Dr Jones sut mae’r chwyddiant presennol yn y Deyrnas Unedig wedi cael ei achosi.

“Mae llawer o ffactorau wedi achosi chwyddiant yn y wlad yma,” meddai.

“Rydyn ni’n gweld cynnydd mewn prisiau egni, ac mae llawer o hynny’n dibynnu ar beth sy’n digwydd yn Rwsia a phrisiau nwy yn fan hynny.

“Problem arall yw’r gadwyn gyflenwi. Mae’r rheiny wedi cael ei styrbio’n eithriadol oherwydd Covid ac wedi bwydo i mewn i chwyddiant.

“Hefyd mae gwerth y bunt wedi disgyn oherwydd Brexit, ac wedi achosi mwy o chwyddiant.”

Cyflog byw cenedlaethol

Yn Ebrill 2022, bydd y cyflog byw cenedlaethol yn cynyddu o £8.91 i £9.50.

“Mi fydd hwnna’n ddiolchgar, ond a fydd y cynnydd yn ddigon i wneud fyny am y cynnydd mewn prisiau,” meddai.

“Er bydd pobol yn teimlo’n gyfoethocach gan fod mwy o arian yn eu pocedi nhw, y risg mawr ydi bydd yr arian yn prynu llai o nwyddau neu wasanaethau.

“Ar y cyfan, dw i’n tybio bydd pobol ddim mor gyfoethog â fydden nhw’n meddwl.”

£2.5 biliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru

Mae Dr Edward Jones yn bryderus y bydd y £2.5 biliwn werth llai mewn gwirionedd oherwydd chwyddiant.

“O ystyried beth sydd wedi digwydd, mae’n amlwg bod yr arian yn mynd i helpu tuag at y pandemig,” meddai.

“Y pryder sydd gen i ydi ein bod ni ddim allan o’r pandemig ar hyn o bryd, ac mae sefyllfa Covid yn cynyddu.

“Dydyn ni ddim yn siŵr sut bydd rhaid i’r Llywodraeth ymateb i hynny, felly mae’n anodd dweud os ydi £2.5 biliwn yn ddigon.

“Ond hefyd, os ydyn ni’n edrych ar y chwyddiant – ac os ydy hwnnw’n cyrraedd 4 i 5% yn y tymor hir – bydd y £2.5 biliwn yna’n prynu llai i Lywodraeth Cymru.

“Oherwydd yr ansicrwydd gyda Covid a’r chwyddiant, mae’n anodd dweud os ydy’r arian hynny’n ddigon ar hyn o bryd.”

Prisiau peint is?

Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi toriad 5% i dreth ar gwrw a seidr drafft wedi’i weini o gynwysyddion dros 40 litr, sy’n golygu bydd tafarndai yn talu llai o dreth ac o bosib y bydd prisiau peint yn is.

“Dw i’n siŵr fydd ‘na lot o ddathlu efo’r Alcohol Duty Reforms,” meddai.

“Roedd hwnna’n rhyw system ryfedd beth bynnag, ac oedd hi’n dda bod y Canghellor yn fodlon glanhau pethau i fyny.

“Mae prisiau cyfranddaliadau tafarndai yn amlwg wedi ymateb yn bositif ar ôl y cyhoeddiad.

“Beth oeddwn i’n hoffi efo hynny oedd bod y Canghellor yn fodlon newid system dreth os oedd rhaid.”

Cyfraddau busnes

“Lle fyswn i wedi hoffi gweld oedd efo cyfraddau busnes,” meddai Dr Edward Jones.

“Mae’r Llywodraeth wedi penderfynu cicio hwnna lawr y lein.

“Mi wnaeth y Canghellor gynnig toriadau o £7 biliwn, ond eto rydyn ni wirioneddol angen newid y system hynny.”

“Efallai ei fod o’n trio gwneud hynny mewn camau bach, ond fe gawn ni weld.”

Newid hinsawdd

“Fyswn i wedi hoffi gweld llawer mwy yn cael ei wneud gyda newid hinsawdd,” meddai Dr Edward Jones.

“Yn enwedig wrth ystyried bod Prydain yn cynnal COP26 mis nesaf, dw i’n teimlo bod ‘na golli cyfle wedi bod efo’r Gyllideb yma.”

Banciau

“Fydd hi’n ddiddorol gweld sut mae pobol yn ymateb i’r cyhoeddiad am fanciau,” meddai Dr Edward Jones.

“Felly mae’r ardoll ar eu helw yn lleihau o 8% i 3%.

“Y ddadl o blaid hyn ydy bod hynny’n mynd i wneud Llundain yn fwy cystadleuol yn erbyn canolfannau arian eraill yn sgil Brexit.

“Ond pan fydd pobol gyffredin yn gweld yr elw y mae’r banciau yn ei wneud, yn enwedig pan mae canghennau yn cau mewn pentrefi, mae’n bosib bydd hynny yn creu rhyw ddrwgdeimlad fyswn i’n tybio o ystyried byddan nhw’n talu llai o dreth.