“Cyllideb i Loegr oedd hon, oedd yn edrych yn dda ar bapur yn unig” dyna ddywedodd yr economegydd Dr John Ball wrth Golwg360.

Wrth ymateb i gyllideb y Canghellor heddiw (Hydref 27) fe ddywedodd y cyn darlithydd bod yna ormod o bwyslais ar adferiad y pandemig yn Lloegr.

“Oni bai am gynyddu’r bloc grant fe ddywedodd fawr ddim yn benodol i Gymru.

“Bydd yn nawr yn rhaid i Lywodraeth Cymru drafod sut y byddwn nhw’n gwario’r arian yna.”

Dyma’r bloc grant mwyaf i’r llywodraethau datganoledig ers y setliad datganoli yn 1999.

Hefyd fe fydd Llywodraeth yr Alban yn derbyn cynnydd o £4.5bn a Gogledd Iwerddon yn derbyn £1.6bn.

Rhy optimistaidd

“Mae’n gyllideb or-optimistaidd gan ystyried ein bod yn dal yn cripian allan o bandemig.”

Ond fe gyfeiriodd at rai pethau byddai’n buddio ardaloedd tlotaf Cymru.

“Bydd uplift yn y Credyd Cynhwysol yn helpu teuluoedd yng Nghymru, yn ogystal â’r codiad cyflog o £8.91 to £9.50 yr awr efallai yn help i bobl ar incwm isel yng Nghymru,” meddai.

Gwrthwynebiad

Cyhuddodd Rachel Reeves y Canghellor Cysgodol o “lwytho’r baich” ar bobl sy’n gweithio o ganlyniad i’w “gamreoli economaidd”, system dreth “annheg”, a “gwariant gwastraffus”.

Roedd y Canghellor Cysgodol yn siarad yn Nhŷ’r Cyffredin gan ddirprwyo ar ran arweinydd Llafur Syr Keir Starmer ar ôl iddo brofi’n bositif am Covid-19.

Fe ddywedodd “Mae yna deuluoedd sydd methu fforddio costau byw, y rhai sy’n dibynnu ar ein hysgolion a’n hysbytai a’n heddlu fwyaf – ni fyddant yn adnabod y byd y mae’r Canghellor yn ei ddisgrifio.”

“Mae’r Canghellor yn y Gyllideb hon wedi penderfynu torri trethi i fanciau.

“Felly o leiaf bydd y bancwyr ar deithiau mewn awerynnau yn sipian siampên yn canmol y Gyllideb hon heddiw.”

Croesawodd Ms Reeves y cynnydd yn yr isafswm cyflog ond dywedodd fod angen i’r Llywodraeth fynd “ymhellach a chyflymach” a dylai fod wedi symud i gynnydd o £10 yr awr o leiaf.

Croesawodd Ms Reeves y gostyngiad yn y gyfradd tapr Credyd Cynhwysol o 63c i 55c hefyd.

Ond fe rybuddiodd fod pobl sy’n gweithio ac sy’n derbyn cymorthdaliadau “yn dal i wynebu cyfradd dreth ymylol uwch na’r Prif Weinidog”.

Ychwanegodd: “Mae’r rhai sy’n methu gweithio heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain yn dal i wynebu colli £1,000 y flwyddyn.”

 

Fe ddyweded arweinydd Plaid Cymru Adam Price ar ei gyfrif Twitter: “Torri treth ar awyrennau domestig, gwin pefriog ac elw banc tra bod y blaned yn llosgi + teuluoedd sy’n gweithio yn eu chael hi’n anodd.

“Dyma’r cyfan y mae angen i chi ei wybod am flaenoriaethau San Steffan.

“Roedd angen arweiniad moesol arnom.

“Cawsom awyrennau rhad a neoryddfrydiaeth siampên.”

Croesawodd Jane Dodds, arweinydd y Demoratiaid Rhyddfrydol, y cyllid ychwanegol i Gymru gan ychwanegu y bydd “y diafol yn y print mân”.

“Yr hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw cynnydd mewn pwerau yma yng Nghymru ac mewn cymunedau lleol i sicrhau bod arian ychwanegol yn cael ei wario mewn ffordd sy’n rhoi’r budd mwyaf i bobl Cymru,” meddai.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi canmol y Canghellor am gyflwyno cyllideb fwyaf i Gymru ers dechrau datganoli.

“Croesawn,£2.5 biliwn i Lywodraeth Cymru drwy fformiwla Barnett dros gyfnod yr Adolygiad o Wariant, ac mae hynny ar ben ei chyllid sylfaenol blynyddol o £15.9 biliwn.”

Cyllideb: £2.5 biliwn ychwanegol i Gymru

Jacob Morris

Yn ei ail gyllideb ers y pandemig, dywedodd Rishi Sunak ei fod yn addo “economi cryfach y dyfodol” mewn “oes o optimistiaeth”