Mae dadleuon wedi codi ynghylch cynghorwyr ym Môn yn gwneud penderfyniadau ar faterion sydd tu hwnt eu rheolaeth.
Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad Comisiwn Ffiniau Cymru y byddai nifer yr Aelodau Seneddol yn cael ei dorri o 40 i 32.
Er hynny, bydd etholaeth Ynys Môn ddim yn cael ei heffeithio, gan ei bod hi’n etholaeth warchodedig.
Roedd cynghorwyr Plaid Cymru yn Ynys Môn, yn ogystal â’r cynghorydd annibynnol Dafydd Roberts, yn croesawu bod yr etholaeth ddim yn cael ei newid, ond roedden nhw’n dweud y byddai llais Cymru’n cael ei wanhau.
Cynnig
Fe wnaeth y glymblaid Plaid Cymru/Annibynnol sy’n arwain y Cyngor fethu â darbwyllo’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i basio cynnig i gondemnio’n swyddogol y toriadau ar draws Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts wrth drafod y cynnig bod “gormod o faterion sydd heb eu datganoli, felly mae hi’n bwysig bod ASau Cymreig yn cynnal eu dylanwad.”
Mewn ymateb i hynny, dywedodd swyddog monitro’r pwyllgor, Lynn Ball, y byddai pasio’r cynnig yn “gosod cynsail” fyddai’n golygu bod gan y Cyngor y gallu i ddadlau pethau sydd tu hwnt i’w grymoedd nhw.
“Os ydych chi’n ymestyn cwmpas y cynnig i rywbeth sydd tu hwnt i allu’r Cyngor, yna bydd hynny’n agor y drws i ystod lawer ehangach o gynigion am bethau sy’n genedlaethol ac yn rhyngwladol,” meddai.