Mae’r actor Ioan Gruffudd wedi rhannu llun ohono ei hun gyda’r actores Bianca Wallace i ddiolch iddi “am wneud imi wenu eto.”

Daw hyn wrth i’r actor 48 oed o Aberdar fynd drwy’r broses o ysgariad gyda’i wraig bresennol, Alice Evans, wedi iddyn nhw wahanu fis Ionawr eleni.

Mae Bianca Wallace, sydd yn Americanes a gafodd ei geni yn Awstralia, wedi actio mewn ffilmiau fel Loveland a Bloodline yn ddiweddar.

Fe rannodd Gruffudd lun ohono fo a Wallace ar Twitter y bore yma (27 Hydref), gyda’r neges: “Diolch am wneud i fi wenu eto” gan ychwanegu dwy galon.

Mae Gruffydd yn enwog am ei ran yn Titanic a hefyd y gyfres Hornblower rhwng 1998-2003 ar ITV.

Roedd hefyd yn actor ar Pobol y Cwm.

Ymysg ei ffilmiau mae Black Hawk Down, Horrible Bosses a San Andreas.

Cafodd ei lun ei hoffi gan filoedd o’i gefnogwyr a’i ddilynwyr yma yng Nghymru a ledled y byd ar Instagram a hefyd ar Twitter – er nad oedd pawb mor gefnogol.

Fe wnaeth Gruffudd ffeilio am ysgariad yn Llys Goruchaf Los Angeles fis Mawrth eleni, ar ôl iddo wahanu oddi wrth Alice Evans.

Roedden nhw’n briod ers 2007, ar ôl cyfarfod ar set y ffilm 102 Dalmatians, ac mae ganddyn nhw ddwy ferch ifanc.

Heddiw, fe ymatebodd Evans ar Twitter i ddangos ei theimladau.

Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu gyda Ioan Gruffydd ac Alice Evans i gael eu sylw.