Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, a Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, yn galw am “ddegawd o weithredu” i fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd.

Daw’r alwad wrth iddyn nhw gyhoeddi Cymru Sero Net, y cam nesaf yn y daith tuag at “Gymru gryfach, decach a gwyrddach”.

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar ail gyllideb carbon Llywodraeth Cymru (2021-2025), ond mae hefyd yn rhoi sylw i’r nod o Gymru sero net erbyn 2050 fel nad yw Cymru’n ychwanegu mwy o nwyon tŷ gwydr at yr amgylchedd nag y mae’n ei dynnu allan.

Mae’r cynllun yn cynnwys mwy na 120 o bolisïau a chynigion y llywodraeth, ac yn rhoi sylw i ystod eang o feysydd amgylcheddol, gan ddangos y camau y bydd y llywodraeth yn eu cymryd, o adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel a phlannu coed cymunedol ar 30 o goetiroedd i ddileu’r defnydd o blastig un tro a datblygu sgiliau gwyrdd busnesau.

Erbyn 2023, bydd pob sefydliad sector cyhoeddus yn cyhoeddi eu hallyriadau ac yn cyhoeddi eu cynlluniau i fod yn Sero Net erbyn 2030.

‘Fe lwyddwn ni drwy gydweithio’

“Mae cyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn glir, rhaid i’r degawd hwn fod yn ddegawd o weithredu i Gymru,” meddai’r prif weinidog Mark Drakeford wrth lansio’r cynllun mewn digwyddiad yn yr Arddangoswr Ynni Gwres yr Haul ym Margam.

“Bydd angen i ni wneud mwy yn y deng mlynedd nesaf nag yr ydym wedi’i wneud yn y 30 mlynedd diwethaf. Bydd hyn yn anodd ond fe lwyddwn drwy gydweithio.

“Rhaid peidio â gwneud yn fach o’r heriau sy’n ein hwynebu yn y degawdau nesaf, a rhaid i ni gydweithio gyda’n gilydd i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd a ddaw.

“Yn y cynllun hwn, rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd y camau sydd eu hangen i sicrhau dyfodol gwyrdd yng Nghymru.

“Ni all y Deyrnas Unedig gyrraedd ei thargedau heb i Gymru weithredu, ac ni allwn ninnau wireddu’n huchelgais heb i Lywodraeth y Deyrnas Unedig chwarae ei rhan deg hithau.”

“Yn ein barn ni, drwy gydweithio a gweithredu ar y cyd y gallwn sicrhau Cymru gryfach, decach a gwyrddach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

‘Dim ond cip sydd yma o eiliad mewn amser’

“Mae’r cynllun hwn bron 90,000 o eiriau o hyd ac yn dangos y graddau y mae mynd i’r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a natur wedi treiddio i’n syniadau. Ond dim ond cip sydd yma o eiliad mewn amser,” meddai Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd.

“Mae angen i ni gyflawni ein polisïau, mae angen i’n cynigion dyfu ac mae angen eu llunio trwy drafod â phobl Cymru.

“Mae Sero Net Cymru yn nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd a’r pethau rydym eisoes yn eu gwneud.

“Gan gynnwys creu lleoedd i fyd natur a darparu cartrefi cynhesach, rhatach ar ynni i bobl dlotaf ein gwlad, yn ogystal â’r pethau yr ydym am eu datblygu yn nhymor y Llywodraeth hon ac yn y gyllideb garbon hon, fel cynllun ffermio cynaliadwy newydd a chreu coedwig genedlaethol.

“Rydym yn cydnabod nad oes gennym yr holl atebion – rydym am weithio gyda phobl ledled Cymru a dysgu oddi wrthynt i gael hyd i atebion blaengar i’r heriau sy’n ein hwynebu a dyma pam, ynghyd â Sero Net Cymru, ein bod hefyd yn cyhoeddi dogfen arall heddiw.

“Mae Cydweithio i Gyrraedd Sero Net yn disgrifio peth o’r gwaith rhagorol sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu ato.

“Mae gwir angen i bawb weithio gyda ni ar hyn ac, er mai dim ond cyfran fach o’r ymrwymiadau a’r gwaith da sydd eisoes wedi digwydd sy’n cael eu disgrifio yn y ddogfen, roeddem am eu rhannu yn y gobaith o ysbrydoli eraill.

“Mae yna bethau y mae’n rhaid i ni eu gwneud i daclo argyfwng yr hinsawdd, ond gallan nhw fod yn gyfleoedd hefyd – rwy’n disgwyl ymlaen at weithio gyda chi i gyd i ddod o hyd i atebion sy’n dod â manteision i Gymru, yn gwella ein cymunedau ac yn tyfu ein heconomïau lleol.”