Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa brofedigaeth gwerth £1m i helpu pobol sy’n galaru.

Bydd y grant yn gymorth i elusennau gydweithio trwy Fframwaith Cenedlaethol newydd a fydd yn darparu gofal o ansawdd gwell.

Diben y fframwaith newydd yw cefnogi pobol trwy effeithiau emosiynol, corfforol a meddyliol gan sicrhau’r “gofal disgwyliedig” y dylai rhywun ei dderbyn wrth alaru.

Mae’r Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Profedigaeth, sy’n cynnwys nifer o sefydliadau elusennol a’r trydydd sector wedi cyfrannu at y fframwaith.

Cefnogaeth

Yn ôl Idris Baker, cadeirydd y grŵp ac arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal diwedd oes Llywodraeth Cymru, mae’r pandemig yn gyfle i wella gofal galar.

“Mae galar yn digwydd inni gyd yn ein tro ac mewn ffyrdd gwahanol. Tros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, mae wedi digwydd i fwy ohonom nag arfer,” meddai.

Y nod yw darparu gofal “beth bynnag fo’r amgylchiadau” a “lle bynnag y maen nhw yng Nghymru.”

Mae’r fframwaith newydd yn gobeithio datblygu ar waith da elusennau sydd eisoes wedi ei gyflawni.

Yn ogystal â’r grant gwerth £1m, fe fydd yna £420,000 ychwanegol ar gyfer byrddau iechyd i’w cefnogi i greu set newydd o safonau profedigaeth.

Byddan nhw nawr yn cydweithio gyda byrddau iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector i sicrhau bod y cynllun yn cael ei roi ar waith.