Daeth cadarnhad ar ail ddiwrnod digwyddiad Blas Cymru yng Nghasnewydd fod prosiect sydd wedi’i ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn hwb i’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.

Yn ôl y llywodraeth, mae Prosiect HELIX a gafodd ei sefydlu yn 2016 wedi arwain at greu cannoedd o gynnyrch newydd ac wedi creu swyddi newydd.

Mae’r prosiect yn fenter ar y cyd rhwng tair canolfan fwyd ym Môn, Ceredigion a Chaerdydd, ac mae’n cefnogi cwmnïau Cymreig i ddatblygu cynnyrch arloesol ar draws sawl maes.

Mae ffigurau’n dangos bod y prosiect yn werth £185.6m i fusnesau bwyd a diod Cymru hyd yn hyn, ac wedi creu 447 o swyddi, a’r disgwyl yw y bydd yn creu 2,306 yn rhagor o swyddi yn y dyfodol.

Mae’r prosiect wedi cefnogi 380 o fusnesau a 943 o unigolion yng Nghymru, ac mae 228 o’r busnesau’n rhai newydd.

Mae 1,240 cynnyrch newydd wedi cael eu creu, ac mae’r prosiect wedi helpu cynhyrchwyr i gael mynediad at 778 o farchnadoedd newydd.

Daw hyn yn ystod blwyddyn hynod o anodd i’r diwydiant, ond mae cwmnïau wedi llwyddo i fod yn gynaladwy drwy leihau gwastraff, gwella effeithlonrwydd a datblygu cynnyrch newydd, yn ôl y llywodraeth.

Cydweithio

Aeth Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, i Ganolfan Technoleg Bwyd Môn dros yr haf i glywed mwy am brosiect HELIX.

“Mae llwyddiant Prosiect HELIX yn dangos pwysigrwydd cydweithrediad rhwng academyddion, arbenigwyr y diwydiant, y llywodraeth a chynhyrchwyr i hybu arloesedd, creu swyddi, meithrin sgiliau a lansio busnesau newydd,” meddai.

“Wrth i ni adfer o’r pandemig a wynebu’r heriau parhaus o ran newid yn yr hinsawdd, bydd y gallu i fod yn arloesol a bachu ar gyfleoedd newydd yn bwysicach nag erioed o’r blaen i’n busnesau bwyd a diod yng Nghymru.

“Rwy’n annog cynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr ledled Cymru i ystyried pa gymorth sydd ar gael drwy Brosiect HELIX a sut gall eu busnesau fanteisio ar ei arbenigedd o’r radd flaenaf a’i gyfleusterau technegol uwch”.

Cwmni cyrri a bwydydd y byd

Un enghraifft o fusnes yn llwyddo drwy Brosiect HELIX yw Authentic Curries and Wold Foods yn Aberdâr.

Mae’r busnes yn cynhyrchu amrywiaeth o brydau parod gan ddefnyddio dulliau coginio bwyd cartref ar gyfer manwerthwyr, bwytai, tafarndai, awdurdodau lleol a chadwyni caffis archfarchnadoedd mawr.

Drwy’r Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yng Nghaerdydd, maen nhw wedi cael cymorth technegol mewn meysydd megis archwiliadau mewnol i fodloni safonau Diogelwch Bwyd BRCGS a diogelwch bwyd sylfaenol.

Ar ôl i’r cwmni gael tystysgrif Diogelwch Bwyd BRCGS, mae wedi llwyddo i gadarnhau dau gwsmer ychwanegol, lansio 15 cynnyrch newydd a chadw gwerthiannau o dros £500,000.

“Rydym wedi manteisio’n barhaus ar y gefnogaeth a gawsom gan ZERO2FIVE,” meddai Paul Trotman, rheolwr gyfarwyddwr Authentic Curries.

“Mae cael arbenigedd allanol yn dod i mewn ac yn ein harchwilio wrth i ni baratoi ar gyfer BRCGS wedi bod yn amhrisiadwy.

“Mae’r holl gydweithredu rydym wedi’i wneud â Phrifysgol Met Caerdydd wedi bod yn wych ac mae’n ein helpu i gynnal pethau’n ddiffwdan.”

Brexit a Covid-19

“Mae Brexit a phandemig COVID-19 wedi codi cwestiynau pwysig ynglŷn â diogelwch bwyd a’r sgiliau sydd ar gael,” meddai’r Athro David Lloyd o Arloesi Bwyd Cymru.

“Hefyd, mae’r cynnydd mewn ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd y mae ein planed yn ei wynebu a’r straen y mae clefydau sy’n gysylltiedig â deiet yn ei chael ar ein cymunedau wedi peri i ni gymryd fwy o sylw o’r bwyd rydym yn ei fwyta ac o le mae’n dod.

“Er bod y cwestiynau hyn yn cyflwyno heriau sylfaenol i faes gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru, gallant hefyd gynnig cyfleoedd i Gymru fod ar flaen y gad o ran newid cadarnhaol.

“Gallwn arwain y ffordd ym maes cynaliadwyedd, datblygu sgiliau, a chanolbwyntio ar gynnyrch lleol a’r gwaith o hyrwyddo deietau iachach.

“Dyma ble mae Arloesi Bwyd Cymru yn chwarae rôl allweddol.

“Gyda’n hamrywiaeth o arbenigedd technegol, gweithredol a masnachol ar draws Cymru gyfan, gallwn gefnogi gweithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymru i arloesi ac i wrthsefyll yr heriau sydd o’n blaenau.”