Fe wnaeth y Gyllideb fethu â gweithredu o ran costau byw ac argyfwng yr hinsawdd, yn ôl Plaid Cymru.
Daw sylwadau Ben Lake, llefarydd Trysorlys y blaid, drannoeth cyhoeddiad y Canghellor Rishi Sunak, wrth iddo gyhoeddi £2.5bn i Gymru.
Dyma’r bloc grant mwyaf i’r llywodraethau datganoledig ers y setliad datganoli yn 1999.
Fe fydd Llywodraeth yr Alban yn derbyn cynnydd o £4.5bn a Gogledd Iwerddon yn derbyn £1.6bn.
Fe wnaeth hefyd amlinellu’r gwariant o’r Gronfa Lefelu i Fyny a fydd yn cynnwys £110m yng Nghymru, £150m yn yr Alban, a £50m yng Ngogledd Iwerddon.
“Gyda miliynau o bobol yn wynebu argyfwng costau byw, heddiw roedd angen Cyllideb drawsnewidiol arnom a fyddai’n rhoi arian ym mhocedi pobol yn y tymor byr a’r tymor hir yn ogystal â pholisïau uchelgeisiol i osod esiampl fyd-eang cyn COP26,” meddai Ben Lake.
“Fe wnaeth y Canghellor fethu o safbwynt y ddau beth.”
Dywedodd fod angen “ymyrraeth sylweddol” gan y Canghellor wrth i deuluoedd deimlo effeithiau chwyddiant yn codi i 4%, ond fod y gostyngiad yng nghyfradd Credyd Cynhwysol ond yn rhoi £2bn o’r £6bn yn ôl a gafodd ei dynnu’n ôl trwy’r toriad o £20 ledled y Deyrnas Unedig “ac yn gadael dim ond cyfran o’r £286m a gafodd ei dynnu allan o economïau lleol Cymru”.
‘Pennawd da i Lywodraeth y Deyrnas Unedig’
Yn ôl Ben Lake, “mae £2.5bn i Gymru yn bennawd da i Lywodraeth y Deyrnas Unedig”.
“Ond gadewch i ni roi hynny mewn persbectif,” meddai.
“Mae oddeutu £5bn yn ddyledus i Gymru mewn arian o ganlyniad i HS2, y gwnaeth y Canghellor benderfynu unwaith eto i’w ddal yn ôl i Gymru.
“Yn wir, yn hytrach na blaenoriaethu buddsoddi mewn isadeiledd trafnidiaeth rheilffyrdd, penderfynodd y Canghellor roi ysgogiad i bobol fynd ar hediadau domestig byrion – gan osod esiampl ryngwladol eithriadol o wael cyn COP26.
“Doedd dim sôn am ynysu cartrefi, lle byddai angen £360m o arian blynyddol yng Nghymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig os ydyn ni am fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd.
“Mae’r cynigion i gynyddu ymchwil a datblygu ond mae perygl o gynyddu’r gwahaniaethau mawr mewn buddsoddiadau ymchwil a datblygu sydd eisoes bedair gwaith yn uwch yn ne-ddwyrain Lloegr nag y mae e yng Nghymru.
“Rydym yn colli allan heddiw, ac mae’n fwy amlwg nag erioed nad yw San Steffan, yn syml iawn, yn gweithio i Gymru.”