Mae ymweliadau wedi cael eu hatal dros dro yn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Daw hyn yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19 mewn ysbytai ac yn y gymuned.
Dim ond mewn amgylchiadau arbennig megis diwedd oes ac ymweliadau critigol y bydd pobol yn cael ymweld â’u hanwyliaid.
Fodd bynnag, dydy’r cyfyngiadau sy’n cael eu cyflwyno heddiw (dydd Iau, Hydref 28) ddim yn effeithio ar drefniadau ymweld cyfredol gwasanaethau mamolaeth.
Rhaid i bob ymwelydd gaell prawf dyfais llif unffordd (LFD) gartref cyn teithio i’r ysbyty.
‘Cyfnod anodd’
“Rydym yn gwerthfawrogi ei bod yn gyfnod anodd i bawb, a byddwn yn parhau i gefnogi lles ein cleifion / defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd a’u hanwyliaid yn y ffordd orau a gallwn, gan gadw pawb mor ddiogel â phosibl,” meddai Bwrdd Iechyd Hywel Dda mewn datganiad.
“Gall ein tîm cymorth i gleifion a swyddogion cyswllt teulu helpu i ddosbarthu eitemau hanfodol i gleifion o’u teulu a hwyluso cyfathrebu trwy opsiynau digidol / ffôn; os oes angen eu cymorth arnoch, ffoniwch nhw ar 0300 0200 159 a byddant yn gwneud eu gorau i’ch helpu chi.
“Mae’r sefyllfa’n cael ei hadolygu’n rheolaidd a bydd diweddariad pellach yn cael ei wneud i gyfyngiadau ymwelwyr cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.
“Diolch i bawb am gefnogi ein cyfyngiadau ymwelwyr i amddiffyn ein cleifion a’n GIG.”