Mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am law trwm wedi cael ei ymestyn i’r rhan fwyaf o Gymru heddiw (dydd Iau, Hydref 28) ac yfory (dydd Gwener, Hydref 29).

Dywed y Swyddfa Dywydd fod rhagolygon o hyd at 60mm o law, gyda hyd at 100mm dros rannau o ogledd-orllewin Cymru o 6yb ddydd Iau.

Mae’r rhybudd, sydd mewn grym tan 3 o’r gloch ddydd Gwener, yn cynnwys pob sir yng Nghymru heblaw am Sir y Fflint.

Mae rhybuddion llifogydd mewn grym yng Nghonwy a Gwynedd.

Maen nhw’n cwmpasu ardaloedd o amgylch Afon Conwy o Ddolwyddelan i Gonwy, afonydd yng ngogledd-orllewin Cymru o Abergwyngregyn i Aberdaron, a hefyd o amgylch Afon Glaslyn ac Afon Dwyryd, o Ddyffryn Ardudwy i Nant Gwynant.

Dywed y Swyddfa Dywydd fod “llifogydd mewn ychydig o gartrefi a busnesau yn debygol”, ynghyd agoedi i deithwyr, ac y gallai glaw parhaus ddechrau yng ngogledd-orllewin Cymru, gyda “chawodydd trymach” ynysig ledled de Cymru yn arwain at 60mm o law mewn llai na naw awr.