Mae Cyngor Tref Dinbych wedi pleidleisio o blaid cadw cerflun dadleuol o HM Stanley.

Daw’r penderfyniad yn dilyn pleidlais gyhoeddus ar ôl ymgynghoriad ar y cerflun sydd wedi hollti barn o ganlyniad i gysylltiadau Stanley â chaethwasiaeth.

Cafodd Nick Elphick ei gomisiynu gan Gyngor Tref Dinbych i greu’r cerflun dros ddegawd yn ôl, ond fe ddaeth o dan y chwyddwydr wrth i ymgyrchwyr ledled y Deyrnas Unedig dynnu sylw dros y flwyddyn ddiwethaf at gofebion sy’n gysylltiedig â chaethwasiaeth.

Ddechrau’r mis hwn, cafodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal ar ôl i ymgyrchwyr alw am dynnu’r cerflun i lawr.

Fis Mehefin y llynedd, penderfynodd y Cyngor Tref gynnal trafodaeth ac fe bleidleision nhw o chwe phleidlais i bump i’w gadw ond i beidio â chynnal ymgynghoriad.

Ond daeth addewid i geisio barn y cyhoedd, ac fe aeth trigolion ati dros yr wythnosau diwethaf i fwrw eu pleidlais.

O ganlyniad i’r bleidlais, lle gwnaeth 69 o bobol leisio’u barn mewn holiadur, bydd y cerflun yn aros y tu allan i lyfrgell y dref, gyda 62 o’r ymatebion o blaid cadw’r cerflun.

Roedd y mwyafrif hefyd yn gwrthwynebu symud y cerflun i Amgueddfa Dinbych.

Pwy yw HM Stanley?

Cafodd HM Stanley ei eni’n John Rowlands yn Ninbych yn 1841 ac fe aeth i wyrcws yn Llanelwy.

Symudodd i fyw i’r Unol Daleithiau yn ei arddegau, lle bu’n ymladd yn y Rhyfel Cartref cyn mynd yn newyddiadurwr ac yn anturiaethwr o bwys.

Mae ganddo fe gysylltiadau â’r brenin Leopold o Wlad Belg, ffigwr oedd yn adnabyddus am gamdrin caethweision o’r Congo.

Pleidlais dros y penwythnos ar ddyfodol cerflun H.M. Stanley

Richard Evans, Gohebydd Democratiaeth Leol a Gohebydd Golwg360

Roedd cysylltiadau H.M. Stanley ag imperialaeth Ewropeaidd wedi sbarduno protestiadau’n erbyn y cerflun

Gofyn am farn y bobl ar ddyfodol y cerflun dadleuol o HM Stanley yn Ninbych

Cynnal pleidlais i weld a fydd y gofeb i un o feibion enwoca’r dref yn cael aros yn ei lle

Adroddiad yn honni bod hanes yn cael ei newid drwy gael gwared ar gerfluniau

“Mae gormod o sefydliadau yn rhuthro i blesio lleiafrif o ran newid hanes”