Mae hanes yn cael ei newid drwy gael gwared ar gerfluniau, ailenwi strydoedd a newid cwricwlwm ysgolion heb “ddull trwyadl”, yn ôl adroddiad newydd.
Mae papur a gafodd ei ysgrifennu gan y darlledwr Trevor Phillips ac a gafodd ei gyhoeddi gan felin drafod y Gyfnewidfa Bolisi heddiw (dydd Llun, Hydref 25) yn honni bod “tuedd gynyddol i newid hanes a threftadaeth gyhoeddus heb broses briodol”.
Ac mae’n dadlau na ddylai’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau roi gormod o lais i ymgyrchwyr.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cerfluniau o ffigyrau sydd â hanes cythryblus wedi achosi dadlau ffyrnig yng ngwledydd Prydain.
Mae’r rhain yn cynnwys cerflun HM-Stanley yn Ninbych, Edward Colston ym Mryste ac Edward VIII yn Aberystwyth.
Yn hytrach, dywed yr adroddiad fod yn rhaid i sefydliadau “roi sylw dyledus i farn a theimladau’r rhai sy’n cefnogi’r sefydliadau, gan gynnwys rhoddwyr, aelodau, gwirfoddolwyr a threthdalwyr” a chyn-fyfyrwyr yn achos ysgolion a phrifysgolion.
Galwodd un o uwch ffynonellau’r Llywodraeth adroddiad Trevor Phillips yn “gyfraniad pwysig a meddylgar i’r ddadl ynghylch ein hanes” gan addo y bydd y Llywodraeth yn “craffu’n agos arno”.
“Mae gormod o sefydliadau yn rhuthro i blesio lleiafrif o ran newid hanes,” meddai.
“Yn hytrach, dylent ddilyn y broses briodol, y gyfraith, a rhoi sylw i bryderon y mwyafrif, gan gynnwys ymwelwyr ag amgueddfeydd, y trethdalwr a rhanddeiliaid pwysig eraill.”
Dywedodd yr adroddiad, sydd wedi’i gyflwyno i’r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon “na ddylai penderfyniadau am newid gael eu dylanwadu’n ormodol gan yr hyn a allai fod yn dueddiadau dros dro yn agweddau’r cyhoedd”.
Daw ar ôl i Oliver Dowden, cadeirydd y Blaid Geidwadol, rybuddio bod rhai sefydliadau diwylliannol yn “ymateb gormod i’r frigâd swnllyd ac ymosodol hon o weithredwyr” a feirniadodd agweddau ar hanes Prydain.
‘Rhesymol’
Roedd tri o benaethiaid amgueddfeydd hefyd yn cefnogi’r papur, gan gynnwys Nicholas Coleridge, cadeirydd Amgueddfa Victoria ac Albert, Syr Ian Blatchford, cyfarwyddwr yr Amgueddfa Wyddoniaeth, a Dr Samir Shah, cadeirydd Amgueddfa’r Cartref.
Dywed Nicholas Coleridge fod yr argymhellion yn “ymarferol, trwyadl ac yn anad dim yn synhwyrol”.
“Rwy’n sicr y byddai unrhyw fwrdd neu sefydliad yn gwneud yn dda i’w hastudio’n ofalus yn hytrach na dod i benderfyniad eithaf brysiog a rhagfarnllyd,” meddai.
Ychwanegodd Syr Ian Blatchford ei fod yn “ganllaw hynod resymol i gyflawni newid sy’n feddylgar a chynaliadwy, yn hytrach na phryderus a llawn panig”.