Fe fydd Stryd y Castell yng Nghaerdydd yn ailagor i draffig preifat o Hydref 31.

Fe fu’r ffordd ynghau i deithwyr ers rhyw flwyddyn a hanner.

Cafodd ei chau haf diwethaf, cyn ailagor i fysiau a thacsis yn unig hydref diwethaf.

Cyhoeddodd Cyngor Caerdydd gynlluniau ym mis Mehefin i ailagor y ffordd i bawb, a hynny yn dilyn pryderon ynghylch ei chau a dargyfeirio traffig trwy ardaloedd preswyl gan achosi llygredd.

Bydd ailagor y ffordd yn cyd-daro â chau Stryd Westgate i draffig, a bydd gât newydd yno i fysiau sy’n golygu na fydd modd i neb ond bysiau, tacsis, seiclwyr a cherddwyr yn gallu mynd ar hyd y stryd.

Bydd modd i drigolion sy’n byw ar y stryd yrru i’w cartrefi o gyfeiriad y gogledd, a bydd mynediad i feysydd parcio o’r cyfeiriad hwnnw hefyd.

Dechreuodd y gwaith ar y ffordd fis diwethaf wrth baratoi i’w hailagor, gyda’r palmant deheuol yn cael ei chulhau i wneud lle ar gyfer y lôn newydd.

Cafodd y cynlluniau ymateb cymysg, gyda nifer o yrwyr yn cwyno am dagfeydd yn yr ardal, gan gynnwys Heol y Gadeirlan, tra bod ymgyrchwyr amgylcheddol yn galw am fwy o le i gerddwyr a seiclwyr.

Gallai unrhyw un sy’n gyrru cerbyd preifat heibio’r gât gael dirwy o £75.