Mae cryn oedi i deithwyr ar yr M4 rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chasnewydd yn dilyn dau ddigwyddiad fore heddiw (dydd Llun, Hydref 25).

Fe fu gwrthdrawiad ger cyffordd 35 (Pen-coed) sy’n golygu bod dwy lôn ynghau i’r dwyrain a bod tair milltir o draffig.

Mae lori wedi torri i lawr yn ardal Casnewydd.

Mae’r digwyddiad hwnnw’n golygu bod un lôn ynghau ger cyffordd 25.