Mae gwefan ac ap Tesco yn gweithio eto ar ôl cael eu hacio.

Dechreuodd y problemau, a adawodd nifer sylweddol o gwsmeriaid yn ei chael hi’n anodd siopa am fwydydd neu dracio archebion, fore Sadwrn (Hydref 23) gan barhau tan ddydd Sul (Hydref 24).

“Mae ein gwefan a’n ap bwyd ar-lein bellach yn gweithio,” meddai llefarydd.

“Mae ein timau wedi gweithio o amgylch y cloc i adfer y gwasanaeth, ac mae’n ddrwg iawn gennym i’n cwsmeriaid am yr anghyfleustra a gafodd ei achosi.”

Dywed yr archfarchnad fod y broblem yn ymgais i “ymyrryd” â’i systemau, ond ychwanega nad oes “unrhyw reswm” dros gredu bod data cwsmeriaid wedi ei effeithio.

Dywedwyd wrth gwsmeriaid y gallai fod angen iddyn nhw fynd i mewn i ystafell aros rithwir cyn cael mynediad i’r safle wrth i Tesco geisio rheoli llif y traffig.

Mae’r mesur fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar adegau siopa prysur er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn cael “profiad cyfleus” ar y safle, meddai’r cwmni wedyn.

Roedd y trafferthion wedi gadael cwsmeriaid yn methu gwneud newidiadau i archebion ac wedi ysgogi nifer fawr o ymholiadau i Tesco.